Gwybodaeth i bobl hŷn sy'n byw yng Nghasnewydd
Lawrlwythwch gynllun drafft Heneiddio'n Dda yng Nghasnewydd 2016-18 (pdf)
Cymru o Blaid Pobl Hŷn: Ein strategaeth ar gyfer cymdeithas sy’n heneiddio
Cafodd strategaeth ar gyfer cymdeithas sy'n heneiddio ei rhyddhau gan Lywodraeth Cymru ym mis Hydref 2021. Mae'r strategaeth yn canolbwyntio ar greu Cymunedau o Blaid Pobl Hŷn a'r manteision i bobl hŷn yng Nghymru, gan ein galluogi i gefnogi pobl sy'n byw mewn amgylchiadau heriol yn well.
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
Mae'r Comisiynydd Pobl Hŷn yn gweithio i Gymru lle mae pobl hŷn yn cael eu gwerthfawrogi, mae eu hawliau'n cael eu cynnal, ac nid oes yr un ohonynt yn cael ei adael ar ôl. Gellir dod o hyd i wybodaeth am y cymorth a’r gefnogaeth sydd ar gael a chael gwybod am eich hawliau.
Eich Casnewydd, Eich Lles
Mae Eich Casnewydd yn fap ar-lein am ddim sy'n eich cysylltu â phopeth a all helpu eich lles meddyliol a chorfforol yn eich ardal leol.
Gwybodaeth a chyngor i bobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thraws (LHDT+)
I gael gwybodaeth a chyngor i bobl LHDT+ hŷn, ewch i wefan Age UK.
Ffrindiau Ffôn LHDT+
Mae Rainbow Call Companions yn wasanaeth cyfeillio dros y ffôn am ddim i bobl LHDT+ sy'n unig, yn ynysig neu angen cwmnïaeth ac sy'n teimlo y byddent yn elwa ar alwad ffôn gyfeillgar bob wythnos neu ddwy.
Mae hwn yn wasanaeth penodol ar gyfer pobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol, trawsryweddol plys (LHDT+) sy’n 75 oed neu hŷn a hoffai siarad â rhywun sydd hefyd yn rhan o’r gymuned LHDT+.
Dod o hyd i ffrind ffôn yr enfys: Ffrindiau ffôn LHDT+
Cysylltwyr Cymunedol
Os hoffech gael gwybodaeth am grwpiau a gweithgareddau cymdeithasol, ewch i'r dudalen Cysylltwyr Cymunedol
Gofalwyr
Os ydych chi'n darparu gofal a chymorth i anwylyd ac angen gwybodaeth a chyngor, ewch i'n tudalen wefan gofalwyr.
Fforwm 50+ Casnewydd
Mae'r Fforwm yn rhoi llais i bobl dros 50 oed yng Nghasnewydd ac mae aelodau'n gwirfoddoli i helpu i wella ansawdd bywyd pobl hŷn drwy ddylanwadu ar y ffordd y caiff gwasanaethau eu cynllunio.
Mae aelodau yn gweithio gyda Chyngor Dinas Casnewydd, iechyd, busnesau lleol a sefydliadau gwirfoddol.
Mae'r Fforwm yn bwyllgor o aelodau etholedig a gall unrhyw un ymuno am ddim.
Cynhelir cyfarfodydd cyhoeddus yn Ionawr, Ebrill, Gorffennaf a Hydref o 2-4pm yn THE PLACE, Stryd y Bont tua diwedd y mis. Chwiliwch am y dyddiadau yn Grassroots in the Argus neu ar ein tudalen Facebook (chwiliwch am Fforwm Casnewydd 50+).
Mae croeso i bawb, dewch draw, mynnwch wybod, cymerwch ran a rhannwch eich barn!
Gofal Cydymaith yn y Cartref
Mae Cartrefi Gofal Casnewydd yn lansio gwasanaeth cwmnïaeth newydd i bobl oedrannus sydd gartref ac a allai fod yn dioddef o unigrwydd.
Gallwch ddod o hyd i ragor o fanylion ar eu gwefan.
Cysylltu
Cysylltwch â gwasanaethau cymdeithasol Cyngor Dinas Casnewydd i gael rhagor o wybodaeth.