Credyd Cynhwysol
Taliad misol unigol yw Credyd Cynhwysol, sy’n cael ei drosglwyddo’n uniongyrchol i gyfrif banc, i gynorthwyo pobl sydd ar incwm isel neu’n ddi-waith.
Mae’n disodli’r budd-daliadau a’r credydau treth hyn:
- Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
- Cymhorthdal Incwm
- Credyd Treth Plant
- Credyd Treth Gweithio
- Budd-dal Tai
Os ydych chi eisoes yn hawlio un neu fwy o’r budd-daliadau sy’n cael eu dileu’n raddol, dylech barhau i’w hawlio fel arfer. Rhoddir gwybod i chi pan fydd angen i chi wneud rhywbeth yn wahanol
Nid oes terfyn ar faint o oriau’r wythnos y gallwch weithio os ydych chi’n hawlio Credyd Cynhwysol.
Yn lle hynny, bydd y swm a gewch yn lleihau’n raddol wrth i chi ennill mwy, felly ni fyddwch yn colli’ch holl fudd-daliadau ar yr un pryd.
Mae hawliadau Credyd Cynhwysol yn cael eu gwneud ar-lein. Os oes angen cymorth arnoch, bydd y Ganolfan Waith yn eich cynghori.
Darllenwch am Gredyd Cynhwysol ar GOV.UK
Ymwelwch â gwefan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol