Cymorth sy'n ymwneud â thai

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn cael Grant Cymorth Tai o tua £6.3 miliwn y flwyddyn gan Lywodraeth Cymru i ddarparu gwasanaethau cymorth sy'n gysylltiedig â thai ar gyfer pobl agored i niwed sy'n byw yn y ddinas.

Nod y grant yw atal digartrefedd a helpu pobl i ddatblygu a chynnal y sgiliau angenrheidiol i fyw mor annibynnol a hunangynhaliol â phosibl.

Mae'r cyllid hwn yn cefnogi oddeutu 2,000 o bobl agored i niwed ar unrhyw un adeg yng Nghasnewydd.

Dyma rai enghreifftiau o'r cymorth sydd ar gael: 

  • Help i reoli llety neu ddod o hyd i lety mwy addas
  • Help i atal digartrefedd:
  • Cyngor a chymorth i hawlio budd-daliadau a rheoli dyledion
  • Cyngor a help gyda chyllidebu a rheoli biliau
  • Cyngor ar faterion fel cymhorthion ac addasiadau, a diogelwch yn y cartref
  • Help i gysylltu ag asiantaethau perthnasol, fel meddygon neu weithwyr cymdeithasol
  • Cymorth i gael mynediad at addysg, cyflogaeth, gwaith gwirfoddol a hyfforddiant
  • Cyfeirio at wasanaethau ac asiantaethau eraill 

Sut i gael cymorth

Os oes angen i chi gael gafael ar wasanaethau cymorth tai ffoniwch Porth Casnewydd ar (01633) 656656 neu e-bostiwch [email protected] 

Ymholiadau?

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am gymorth tai neu Porth Casnewydd, cysylltwch â'r tîm Cefnogi Pobl ar (01633) 656656 neu e-bostiwch [email protected] 

Gwybodaeth gysylltiedig

Arolwg canlyniadau 2024 - 2025

Rhaglen Strategaeth Cymorth Tai 2022 – 2026 – Datganiad o Anghenion (pdf)

Cyfeiriadur Gwasanaethau Cefnogi Casnewydd (pdf) 

Gweld bwletinau Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru

Dogfen gweithgareddau a ganiateir Cefnogi Pobl (pdf)

Os oes gennych gyfrif Civica, gallwch gyrchu Civica yma