Newyddion

Gwirfoddolwyr Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymuno ag Olrhain Cysylltiadau Gwent

Wedi ei bostio ar Monday 1st March 2021

Hyfforddwyd sawl gwirfoddolwr o Cyfoeth Naturiol Cymru ym mis Ionawr i ymgymryd â gwaith olrhain cysylltiadau fel rhan o dîm Cyngor Dinas Casnewydd, sy'n rhan o wasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu Gwent.

Cynigiodd Cyfoeth Naturiol Cymru helpu ym mis Rhagfyr y llynedd pan oedd y nifer uchel o achosion o Covid-19 yr oedd angen olrhain cysylltiadau yn eu cylch yn her sylweddol i'r gwasanaeth ddelio â hi'n gyflym.

Mae parodrwydd y cyhoedd i gydymffurfio â chyfyngiadau Llywodraeth Cymru wedi helpu i leihau nifer yr achosion yng Ngwent ac mae'r gwasanaeth yn perfformio'n dda. Mae ffigurau diweddar yn dangos ei fod yn cysylltu'n llwyddiannus â thros 91 y cant o achosion a'u cysylltiadau agos o fewn 24 awr.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, "Rwy'n ddiolchgar iawn am gefnogaeth Cyfoeth Naturiol Cymru i gynorthwyo gyda'r gwaith o yrru heintiau Covid-19 i lawr yn ein cymunedau.

"Rwy'n cydnabod y bu'n gyfnod anodd arall i bawb ers cyflwyno'r cyfyngiadau presennol ond rwy'n annog pawb i barhau i chwarae eu rhan i leihau lefelau'r clefyd hwn trwy barchu'r cyfyngiadau a chofio bod 'Dwylo, Wyneb, Pellter' yn dal yn hanfodol."

Mae Debbie Hamer yn un o wirfoddolwyr Cyfoeth Naturiol Cymru ac fel arfer mae'n gweithio yn y Tîm Ynni Adnewyddadwy.

 "Gwirfoddolais a chefais fy nghefnogi i symud ymlaen i weithio ym maes olrhain cysylltiadau. Rwy'n gobeithio y bydd nifer yr achosion yn parhau i ostwng, ond rwy'n falch y gallwn helpu ac fe wnes i fwynhau gweithio gyda chydweithwyr yng Nghasnewydd, gan wneud rhywbeth sy'n cefnogi cymunedau Cymru yn uniongyrchol i ddelio â Covid-19."

Dywedodd Steve Morgan, Pennaeth Gweithrediadau De-ddwyrain Cymru CNC: "Mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae wrth helpu i drechu Covid-19, boed hynny ar lefel bersonol neu broffesiynol. Rwy'n falch o fod yn gweithio gyda thîm sydd wedi gweithio'n ddiflino yn ystod y pandemig ac sydd bellach yn barod i gamu y tu allan i'w swydd ddydd a gwirfoddoli tuag at yr ymdrech genedlaethol.

"Mewn mannau eraill o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru, mae ein gwaith hanfodol yn parhau i ddiogelu ein hamgylchedd gwych yr ydym i gyd wedi dod i ddibynnu arno gymaint yn ystod y cyfnod anodd hwn."

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.