Ymddygiad gwrthgymdeithasol

O 1 Ebrill 2024, mae'r Swyddogion Gorfodi Diogelwch Cymunedol yn gweithredu rhwng 8am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Defnyddiwch ein ap sŵn i riportio cwynion am sŵn

Rhowch wybod am ymddygiad gwrthgymdeithasol a niwsans sŵn 

E-bost: [email protected]

Neu ffoniwch:

  • Cysylltwch â Chanolfan Gyswllt y Ddinas ar (01633) 656 656 rhwng 8am - 5pm o ddydd Llun i ddydd Iau a hyd at 4:30pm ddydd Gwener i siarad ag aelod o'r Timau Gorfodi Diogelu'r Amgylchedd neu Ddiogelwch Cymunedol.

  • Bydd yr Adran Diogelu’r Gymuned yn parhau i weithredu gwasanaeth ‘Y Tu Allan i Oriau’, ffoniwch yr Ystafell Weithrediadau TCC ar (01633) 656 667, bydd galwadau’n cael eu cofnodi ac yna’n cael eu gweithredu ar y diwrnod gwaith nesaf.

  • Os ydych eisoes mewn cysylltiad ag aelod o naill ai’r Tîm Diogelu’r Amgylchedd neu Swyddog Gorfodi Diogelwch Cymunedol a gofynnwyd i chi ffonio pan fydd yr aflonyddwch sŵn neu ymddygiad gwrthgymdeithasol yn digwydd, cysylltwch â’ch swyddog achos ar eu llinell uniongyrchol, yn ystod ein hamseriadau gweithredol.
  • Os ydych yn defnyddio’r ap sŵn, a fyddech cystal â pharhau i gyflwyno recordiadau sŵn o’r ap sŵn, mae tystiolaeth o’r fath yn amhrisiadwy a bydd yn cryfhau unrhyw ymchwiliad yn sylweddol, lle bo’n briodol.

I gysylltu â Heddlu Gwent, ffoniwch 101 neu ffoniwch 999 mewn argyfwng.

Swyddogion Gorfodi Diogelwch Cymunedol

Mae Swyddogion Gorfodi Diogelwch Cymunedol Casnewydd wedi'u hachredu gan Heddlu Gwent ac mae ganddynt bwerau o dan Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005.

Gall wardeniaid ddelio ag adroddiadau am niwsans sŵn, sbwriel, baw cŵn, graffiti, tipio anghyfreithlon ac ysmygu mewn mannau cyhoeddus, a gallant gymryd alcohol a sigaréts oddi ar bobl os bydd angen.

Mae wardeniaid yn gweithio'n agos gyda thîm iechyd yr amgylchedd y cyngor i ddelio â niwsans sŵn.

Darllenwch am sut rydym ni'n delio â chwynion am sŵn

Cymorth i ddioddefwyr

Bydd y swyddog cymorth dioddefwyr yn asesu anghenion y dioddefwr ac yn cynnig cyngor a chymorth ymarferol, gan weithio gyda wardeniaid diogelwch cymunedol a'r heddlu i sicrhau bod dioddefwyr yn cael cymorth.

Cysylltwch â Chymorth i Ddioddefwyr Cymru neu ffoniwch 0845 612 1900 i gael rhagor o gymorth. 

Darllenwch am Orchmynion Amddiffyn Mannau Cyhoeddus

Darllenwch am sbardun cymunedol Casnewydd

Cysylltu

Cysylltwch â'r swyddog diogelwch cymunedol yng Nghyngor Dinas Casnewydd