Mae gan Gyngor Dinas Casnewydd brif weithredwr a dau gyfarwyddwr strategol sydd, gyda’i gilydd, yn goruchwylio’r ffordd y mae gwasanaethau’n cael eu darparu.
Mae gan Gyfarwyddwyr gyfrifoldeb ar y cyd am newid diwylliant, materion Ewropeaidd ac amrywiaeth a chydraddoldeb.
Prif Weithredwr: Beverly Owen
Thema’r Cynllun Corfforaethol: Datblygu’r Cynllun Integredig Sengl
Partneriaethau strategol: Bwrdd Gwasanaethau Lleol Casnewydd yn Un
Mae’n goruchwylio’r cyfarwyddwr strategol, y pennaeth cyllid, pennaeth y gyfraith a rheoleiddio a’r pennaeth pobl a newid busnes.
Mae rolau strategol eraill yn cynnwys pennaeth y gwasanaeth taledig, prif gynghorwr polisi i’r awdurdod, y cynllun corfforaethol, y strategaeth gymunedol, datblygu aelodau, strategaeth y gyllideb, llywodraethu, cyfathrebu, datblygu sefydliadol, swyddog canlyniadau.
Cyfarwyddwr Strategol - Pobl: (vacant)
Thema’r Cynllun Corfforaethol: Gofal a Chwsmeriaid
Partneriaethau strategol: Bwrdd Gwasanaethau Lleol Casnewydd yn Un – arweinydd thema ar gyfer camddefnyddio alcohol a sylweddau.
Mae’n goruchwylio’r pennaeth gwasanaethau oedolion a chymunedol, y pennaeth plant a phobl ifanc a’r prif swyddog addysg.
Mae rolau strategol eraill yn cynnwys gweithio mewn partneriaeth ag iechyd, cydlyniad cymunedol, amrywiaeth, y sector gwirfoddol, yr agenda ataliol a’r bartneriaeth 14-19.
Cyfarwyddwr Strategol – Lleoedd: (vacant)
Thema’r Cynllun Corfforaethol: Adfywio a’r Amgylchedd
Partneriaethau strategol: arweinydd thema ar gyfer sgiliau a gwaith, cyfleoedd economaidd, a chanol y ddinas.
Mae’n goruchwylio’r pennaeth adfywio, buddsoddi a thai, a’r pennaeth strydlun a gwasanaethau’r ddinas.
Mae rolau strategol eraill yn cynnwys adfywio’r ddinas, marchnata a digwyddiadau, y strategaeth drafnidiaeth, newid yn yr hinsawdd a chynaliadwyedd, yr agenda sgiliau a bod heb waith, gwaith cymdogaeth a rheoli ardal, rheoli asedau a Chartrefi Dinas Casnewydd.