Cau ffyrdd i Sir Casnewydd yn erbyn Manchester United
Wedi ei bostio ar Friday 26th January 2024
Bydd nifer o ffyrdd ar gau dros dro ar gyfer pedwaredd rownd Cwpan FA Emirates ddydd Sul yma rhwng Sir Casnewydd a Manchester United.
Bydd y gorchymyn cau ffyrdd ar waith ar Rodney Road, Grafton Road, a St. Vincent Road, rhwng 10am a 7pm.
Yn ystod y cyfnod hwn, bydd mynediad i'r ffyrdd hyn wedi’i gyfyngu i breswylwyr a mynediad stadiwm awdurdodedig yn unig.
Bydd preswylwyr a cherbydau stadiwm awdurdodedig yn cael mynediad rhwng 10am a 3.30pm.
Bydd y ffyrdd ar gau yn gyfan gwbl rhwng 3.30pm a 4.45pm er mwyn galluogi cefnogwyr i gael mynediad i Rodney Parade.
Bydd mynediad i breswylwyr yn ailagor rhwng 4.45pm a 6.15pm.
Bydd y ffyrdd ar gau yn gyfan gwbl eto rhwng 6.15pm a 7pm er mwyn caniatáu i gefnogwyr adael y maes.
Bydd yr holl ffyrdd yn ailagor o 7pm.