Newyddion

Colli swyddi posib yng ngwaith dur Tata

Wedi ei bostio ar Tuesday 23rd January 2024

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn cynnig cymorth a chyngor cyflogaeth i drigolion Casnewydd sy'n gweithio yng ngwaith dur Tata ac a allai fod yn wynebu colli eu swydd.

Mae'r cyngor yn deall y gallai hyd at 300 o swyddi gael eu colli yng ngwaith dur Llan-wern dros y blynyddoedd nesaf ac mae pobl leol hefyd yn cael eu cyflogi ar safle Port Talbot lle bydd 2,500 o bobl yn colli eu swyddi.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd, arweinydd y cyngor: "Mae hon yn ergyd drom arall i ddiwydiant a oedd unwaith yn darparu cyfleoedd cyflogaeth o ansawdd uchel ac a oedd mor bwysig i economi Casnewydd a De Cymru.

"Mae trigolion sy'n gweithio yn Llan-wern a Port Talbot bellach yn wynebu cyfnod arall o ansicrwydd wrth aros i ddarganfod sut y bydd y cyhoeddiad yn effeithio arnynt. Mae ein meddyliau gyda nhw a'u teuluoedd ar yr adeg anodd hon.

"Rydym yn deall nad yw Tata wedi gwneud unrhyw benderfyniadau terfynol am Lan-wern ac yn gobeithio y byddant yn ailystyried torri mwy o swyddi yn y ddinas.

"Bydd ein tîm gwaith a sgiliau ar gael i gynnig cyngor a chymorth i breswylwyr sy'n wynebu colli eu swyddi naill ai yn Llan-wern neu Port Talbot pan fo angen."

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.