Cynlluniau i wella Parc Tredegar yn cymryd cam arall ymlaen
Wedi ei bostio ar Thursday 25th January 2024
Mae cynlluniau Cyngor Dinas Casnewydd i wella Parc Tredegar wedi cymryd cam mawr ymlaen ar ôl iddo gynnig prynu rhydd-ddeiliadaeth tir y parc oddi wrth ei berchennog.
Ar hyn o bryd, mae'r cyngor yn prydlesu'r tir at ddibenion darparu caeau chwarae ac ardal hamdden ar gyfer y ddinas.
Daw'r brydles gyda nifer o amodau cyfyngol ynghlwm, a bydd prynu'r rhydd-ddeiliadaeth yn rhoi mwy o ymreolaeth i'r cyngor wrth ddatblygu'r parc yn unol â dymuniadau trigolion Casnewydd.
Mae adroddiad yn amlinellu'r pryniant arfaethedig wedi'i anfon at yr holl gynghorwyr i gael sylwadau, ac os cytunir ar hyn bydd y cyngor yn symud ymlaen gyda'i gynlluniau gwella.
Yr haf diwethaf, cynhaliodd y cyngor ymgynghoriad helaeth â thrigolion ynghylch pa welliannau yr hoffent i ni eu gwneud i'r cynnig hamdden yn y parc.
Roedd yr ymateb i'r arolwg yn dda, gydag ychydig yn llai nag 850 o ymatebion wedi eu derbyn. Roeddent yn dangos diddordeb cymunedol cryf mewn gwella cynnig hamdden y parc.
Yn seiliedig ar ganlyniad yr ymgynghoriad, nodwyd nifer o elfennau cyffredin ac fe'u cyflwynwyd fel rhan o'r buddsoddiad arfaethedig, gan gynnwys:
- Ardal chwarae well gyda nodweddion ychwanegol ac offer chwarae cynhwysol
- Gwell mynediad ac ailgynllunio'r maes parcio a'r gofod digwyddiadau
- Gwell cyfleusterau chwaraeon, a datblygu ardal gemau aml-ddefnydd
- Gardd synhwyraidd
- Ad-drefnu'r parc i greu llefydd gwell i holl ddefnyddwyr y parc
- Datblygu ardal chwarae dŵr gynhwysol
- Datblygu cyfleusterau caffi newydd, cwbl gynhwysol
Mae'r cyngor nawr yn edrych ar sut y gall gyflawni'r elfennau hyn fel rhan o'r pecyn buddsoddi cyffredinol i'r parc, yn ogystal â'r costau refeniw sy'n gysylltiedig â gweithredu a chynnal yr elfennau hyn dros y tymor hir. Bydd diweddariadau pellach ar gynnydd yn cael eu rhannu pan fyddant ar gael.
Daw cyllid cyfalaf ar gyfer y prosiect o ddyraniad Casnewydd o Gronfa Ffyniant Gyffredin llywodraeth y DU, o dan y flaenoriaeth 'cymunedau a lle'.
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn un o bileri canolog agenda Ffyniant Bro llywodraeth y DU ac yn darparu £2.6 biliwn o gyllid i’w fuddsoddi’n lleol erbyn mis Mawrth 2025.
Nod y Gronfa yw gwella balchder mewn ardaloedd a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU gan fuddsoddi mewn cymunedau ac ardaloedd a chefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau.
Am fwy o wybodaeth, ewch i
https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus