Newyddion

Casnewydd i gydnabod pobl sy'n gadael gofal fel nodwedd warchodedig

Wedi ei bostio ar Thursday 25th January 2024

Bydd pobl sy'n gadael gofal yn cael mwy o gydnabyddiaeth gan Gyngor Dinas Casnewydd wrth ddylunio polisïau a gwasanaethau.

Mae hynny'n dilyn penderfyniad yng nghyfarfod y cyngor nos Fawrth i gydnabod pobl sy’n gadael gofal  (profiad o fod mewn gofal) fel nodwedd warchodedig.

Bydd 'profiad o fod mewn gofal' yn cael ei ychwanegu at y rhestr o nodweddion gwarchodedig ar Gynllun Cydraddoldeb Strategol nesaf y cyngor, fydd yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach eleni.

Bydd y cam yn golygu y bydd y cyngor yn ystyried anghenion penodol pobl sy'n gadael gofal pryd bynnag y bydd yn gwneud penderfyniadau, ac yn rhoi mwy o ymreolaeth i'r cyngor roi polisïau a rhaglenni ar waith fydd yn hyrwyddo canlyniadau gwell i bobl sy'n gadael gofal.

Cefnogwyd y penderfyniad yn unfrydol yn y cyfarfod yn dilyn cynnig gan arweinydd y cyngor, y Cynghorydd Jane Mudd, a eiliwyd gan y Cynghorydd Stephen Marshall, cyd-aelod cabinet dros y Gwasanaethau Cymdeithasol.

Cyn y cyfarfod, cynhaliwyd dathliad yn y Ganolfan Ddinesig ar gyfer nifer o bobl sy’n gadael gofal. Cyflwynwyd cwiltiau wedi eu gwneud â llaw iddynt fel rhan o’r prosiect Cwiltiau ar gyfer Ymadawyr Gofal. Cafodd y bobl sy’n gadael gofal gyfle hefyd i siarad â'r arweinydd ac aelodau etholedig eraill am eu profiadau.

Gan sôn am y cynnig oedd yn cael ei basio, dywedodd y Cynghorydd Mudd: "Rwy'n falch iawn bod y cyngor wedi rhoi ei gefnogaeth i bobl sy'n gadael gofal gael mwy o gydnabyddiaeth gan y ddinas.

"Rydym yn cydnabod bod pobl sy'n gadael gofal yn wynebu set unigryw iawn o amgylchiadau a heriau, ac mae'n briodol ein bod yn gwneud popeth posibl i ystyried yr amgylchiadau hyn wrth gynllunio ein gwasanaethau.

"Mae pasio'r cynnig hwn yn gwneud anghenion pobl sy'n gadael gofal yn ganolog i’n prosesau gwneud penderfyniadau. Rydym yn galw ar gyrff cyhoeddus eraill nad ydynt wedi gwneud hynny eto i ystyried cydnabod y profiad o fod mewn gofal yn yr un modd, fel y gallwn, gyda'n gilydd, helpu i sicrhau canlyniadau gwell i bobl sy’n gadael gofal ledled Cymru."

Dywedodd Rowan Aderyn, sydd â phrofiad o dyfu i fyny mewn gofal maeth ac sy’n cefnogi’r symud: “Heb ofal maeth, ni fyddwn yn fyw heddiw. Byddaf yn ddiolchgar am byth am gefnogaeth cymaint o wasanaethau ac eto dros fy oes rwyf wedi gweld a chlywed am gynifer o enghreifftiau o'r rhagfarn y mae pobl brofiadol o ofal yn ei wynebu.

“Rydym wedi tanio sbarc yng Nghymru. Drwy ddiogelu profiad gofal, rydym ar y daith i adeiladu dyfodol lle mae pob plentyn, waeth beth fo’i orffennol, yn cael y cyfle i ddisgleirio.”

Mae’r cynnig llawn ar gael i’w weld ar wefan y cyngor.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.