Newyddion

Gwahoddir cymunedau Casnewydd i ddathlu Blwyddyn Newydd y Lleuad ym mis Chwefror

Wedi ei bostio ar Tuesday 30th January 2024

Fis Chwefror eleni, mae Cyngor Dinas Casnewydd, Canolfan Gymunedol Tsieineaidd Casnewydd a Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon yn falch iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth i ddod â Dathliad trawiadol Blwyddyn Newydd y Lleuad i Ganol Dinas Casnewydd ddydd Sadwrn 10 Chwefror.

Mae'r diwrnod hwn o ddigwyddiadau dathlu yn nodi'r tro cyntaf i'r grwpiau hyn o Gasnewydd ddod at ei gilydd i nodi'r diwrnod pwysig hwn yng nghalendr y lleuad, ac yn gobeithio bydd y diwrnod o weithgareddau yn dod â llawer o aelodau o gymuned Casnewydd at ei gilydd i ddathlu.

Yn dwyn y teitl 'Mae’r Dreigiau’n Dod!', bydd y digwyddiad ddydd Sadwrn 10 Chwefror yn llawn perfformiadau, gweithdai a gweithgareddau i gyd yn dathlu ysbryd Blwyddyn Newydd y Lleuad. Gan ddechrau am 10am yn Friars Walk, bydd gorymdaith na ellir ei cholli yn dod â strydoedd canol y ddinas yn fyw gydag egni a chyffro diolch i ddawnswyr llew swynol.

Mae’r trefnwyr yn croesawu pawb i ddod draw i ymuno â'r orymdaith hon sy'n addas i deuluoedd; gallwch greu eich pyped neu gerflun o ddraig eich hun, gyda'ch teulu, ffrindiau, cydweithwyr neu grŵp cymunedol, dewch â'ch llusern eich hun, neu dewch draw yn eich dillad coch gorau ac ymunwch yn yr hwyl.

Bydd yr orymdaith yn mynd i Theatr Glan yr Afon am ddiwrnod o weithgareddau am ddim i bob oedran, sy'n digwydd rhwng 11am a 5pm. Bydd gweithdai i ymuno â nhw, yn dathlu amrywiaeth o grefftau a thraddodiadau Tsieineaidd gan gynnwys pypedwaith cysgodion, seremoni te Tsieineaidd a chaligraffeg, ochr yn ochr â cherddoriaeth a pherfformiadau trawiadol.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd, arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd a’r aelod cabinet dros fuddsoddi strategol a thwf economaidd: "Rydym yn llawn cyffro i fod yn gweithio gyda Chanolfan Gymunedol Tsieineaidd Casnewydd a Casnewydd Fyw i greu digwyddiad Blwyddyn Newydd y Lleuad gwych.

 "Hwn fydd y tro cyntaf i Gasnewydd gynnal gorymdaith ar gyfer Blwyddyn Newydd y Lleuad, ac rwy'n falch ein bod wedi gallu helpu i drefnu'r hyn a ddylai fod yn ddigwyddiad gwych i nodi'r achlysur. "Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at ddod â'r ddinas ynghyd i ddathlu ar 10 Chwefror."

Am y digwyddiad, dywed Mai Ling Evans, cadeirydd Canolfan Gymunedol Tsieineaidd Casnewydd "Mae Canolfan Gymunedol Tsieineaidd Casnewydd yn elusen yng Nghasnewydd sy'n gwasanaethu'r gymuned leol, gan ganolbwyntio ar y gymuned Tsieineaidd hŷn ers dros 20 mlynedd. Rydym yn falch iawn o groesawu Blwyddyn y Ddraig gyda phawb yng Nghasnewydd yn rhannu llawenydd a chyffro bwyd traddodiadol, crefftau Tsieineaidd a dawns y llew.  Rydym yn gobeithio bydd pawb yn ymuno â ni ar y diwrnod."

Ychwanega Gemma Durham, Pennaeth Theatr, Celfyddydau a Diwylliant Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon "Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio ochr yn ochr â Chanolfan Gymunedol Tsieineaidd Casnewydd a Chyngor Dinas Casnewydd ar y digwyddiad anhygoel hwn. Mae'n mynd i fod yn ddigwyddiad gwych i bob oedran ac edrychwn ymlaen at agor drysau Glan yr Afon ar gyfer diwrnod mor gyffrous o weithgaredd i ddathlu blwyddyn y ddraig."

Gallwch ddarganfod mwy am y digwyddiad anhygoel hwn a sut gallwch gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau gartref i lansio blwyddyn y ddraig yn newportlive.co.uk/Riverfront, neu drwy ddilyn Glan yr Afon ar y cyfryngau cymdeithasol, Facebook: TheRiverfront ac Instagram ac X: @riverfrontarts.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.