Cynigion cyllideb Casnewydd ar gyfer 2024/25
Wedi ei bostio ar Thursday 4th January 2024
Yr wythnos nesaf, bydd cabinet Cyngor Dinas Casnewydd yn ystyried ei gyllideb ar gyfer 2024/25 a sut y bydd gwasanaethau'n cael eu darparu yn wyneb galwadau cynyddol a chyllid heriol.
Yn y cyfarfod ddydd Mercher 10 Ionawr, bydd nifer o gynigion yn cael eu hystyried yn fanwl cyn i'r cabinet gytuno a fydd yn destun ymgynghoriad cyhoeddus.
Mae angen dod o hyd i arbedion o tua £5 miliwn i gyflawni cyllideb gytbwys.
Yn ogystal ag arbedion arfaethedig, bydd y cabinet hefyd yn ystyried meysydd a fydd yn derbyn buddsoddiad ychwanegol.
Mae'r rhain yn cynnwys meysydd blaenoriaeth gan gynnwys gofal cymdeithasol, darpariaeth i'r digartref ac ysgolion.
Mae'r galw am ofal cymdeithasol i oedolion a phlant yn parhau i gynyddu, felly cynigir £3 miliwn i helpu i reoli'r galw hwnnw a darparu cefnogaeth i rai o'n preswylwyr mwyaf agored i niwed.
Yn yr un modd, mae digartrefedd a'r galw am lety dros dro yn parhau i gynyddu, felly cynigiwyd £600,000 ychwanegol i gefnogi'r gwasanaeth.
Mae'r ddau faes hyn yn cael eu hystyried fel rhan o raglen drawsnewid y cyngor sy'n anelu at newid y ffordd rydym yn gwneud pethau er budd preswylwyr. Bydd y buddsoddiadau hyn yn helpu i ddarparu'r gwasanaethau hanfodol tra bod y gwaith yn cael ei gwblhau i'w hail-lunio ar gyfer y tymor hir.
Mae'r gyllideb hefyd yn cydnabod y pwysau sydd ar ysgolion ac wedi blaenoriaethu cyllid sylweddol ar gyfer cyflogau staff, galw cynyddol o ganlyniad i gynnydd yn nifer y disgyblion, ac ar gyfer cymorth i'r rheini ag anghenion dysgu ychwanegol.
Os cytunir arno yng nghyfarfod y cabinet, gofynnir i drigolion eu barn ar gynnydd arfaethedig yn nhreth y cyngor o 8.5 y cant.
Mae'r dreth gyngor yng Nghasnewydd 10 y cant yn is na chyfartaledd Cymru ar hyn o bryd, felly hyd yn oed gyda chynnydd, Casnewydd fyddai un o'r cyfraddau isaf o hyd.
Mae dros hanner eiddo Casnewydd o dan fandiau A i C, felly byddai'r rhan fwyaf o aelwydydd yn gweld cynnydd o rhwng £1.50 a £2.01 yr wythnos.
Fodd bynnag, mae'r arian a godir drwy'r dreth gyngor yn cyfrif am lai na chwarter cyllideb gyffredinol y cyngor. Am bob un y cant mae'r dreth gyngor yn cael ei gynyddu, codir £710,000 ychwanegol.
Daw'r rhan fwyaf o gyllid y cyngor gan Lywodraeth Cymru, drwy'r grant cynnal refeniw. Cyhoeddwyd y swm drafft ar gyfer Casnewydd ychydig cyn y Nadolig, ond nid yw gwir effaith ystod o doriadau yn ymwneud â chyllid mewn meysydd gan gynnwys digartrefedd, gofal cymdeithasol, costau ysgol a chymorth cymunedol wedi'i phenderfynu eto.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Jane Mudd: “Er bod Casnewydd wedi derbyn y cynnydd canrannol uchaf o gynghorau Cymru, mewn termau real rydym yn dal i fod ymhell ar ei hôl hi o ran lle mae angen i ni fod.
“Mae poblogaeth Casnewydd wedi tyfu'n sylweddol ac yn gyflym dros y blynyddoedd diwethaf, ac er ein bod yn falch ein bod bellach yn cael ein cyfran haeddiannol o grant Llywodraeth Cymru, gan ystyried y twf hwnnw, mae'r pwysau ychwanegol y mae'n ei roi ar bob gwasanaeth yn sylweddol fwy na'r cyllid sydd ar gael i ni.
“Mae'r gost o ddarparu gwasanaethau yn parhau i gynyddu yn yr un ffordd ag y mae costau byw pawb wedi codi. Ac ar yr un pryd, mae mwy o bobl yn cyrchu'r gwasanaethau hynny, gan gynyddu'r galw.
“Rydyn ni hefyd yn wynebu toriadau sylweddol i lawer o'r grantiau rydyn ni'n eu derbyn ac rydyn ni eto i ddeall effaith y gostyngiadau hyn yn llawn, ond mae'n sicr o fod yn sylweddol.
“Ers blynyddoedd, mae llywodraeth y DU wedi tanariannu llywodraeth leol. Ers dechrau cyni ariannol, mae cynghorau yng Nghymru wedi colli dros £1biliwn o'u cyllidebau.
“Rydym yn galw ar Lywodraeth y DU i gynyddu'r setliad llywodraeth leol i Lywodraeth Cymru yn ei datganiad ym mis Mawrth er mwyn sicrhau bod mwy o arian ar gael i gynghorau ei wario ar wasanaethau hanfodol. Dim ond £305 miliwn yn ychwanegol y mae’r setliad drafft presennol yn ei ddarparu i lywodraeth Cymru dros gyfnod o ddwy flynedd.
“Mae hyn yn golygu bod gan Lywodraeth Cymru tua £160 miliwn y flwyddyn nesaf i gwrdd â’r holl bwysau yn y GIG, llywodraeth leol yr holl wasanaethau eraill y mae’n eu darparu i bobl Cymru.
“Nid yw setliad drafft Llywodraeth Cymru yn gwrthdroi'r pwysau eithafol ar wasanaethau nac yn dileu'r bwlch rhwng y gyllideb sydd ar gael gennym a chost wirioneddol darparu gwasanaethau.Ond mae'n rhoi rhywfaint o gyfle inni ystyried sut rydym yn darparu cyllideb gytbwys.
“Mae'r cyngor yn darparu dros 800 o wasanaethau ar gyfer tua 160,000 o bobl sy'n byw mewn mwy na 65,000 o aelwydydd. Ein prif nod, fel bob amser, yw sicrhau bod y gwasanaethau mwyaf sylfaenol yn cael eu cynnal ar gyfer preswylwyr ac y gallwn gefnogi'r rhai sydd angen help llaw ychwanegol.
“Rwy'n annog pawb i fanteisio ar y cyfle i ddweud eu dweud ar yr hyn sy'n bwysig iddyn nhw fel rhan o'r ymgynghoriad cyhoeddus a helpu fy nghabinet a minnau i wneud penderfyniadau mwyaf gwybodus ar gyfer pobl Casnewydd.”
Yn dilyn cyfarfod y cabinet ar 10 Ionawr, bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn rhedeg o 11 Ionawr tan 9 Chwefror yn Lleisiwch eich barn | Newport City Council
Bydd yr holl gynrychiolaethau yn cael eu hystyried a bydd y cabinet yn cyfarfod eto ar 14 Chwefror pan fyddant yn gwneud eu hargymhellion terfynol ar y gyllideb gyffredinol ar gyfer 2024/25.
Gellir darllen crynodeb o'r adroddiad cyllideb a'r cynigion drafft sy'n cael eu hystyried yma.
Mae holl gyfarfodydd y cabinet hefyd yn cael eu darlledu ar wefan y cyngor.
I gael rhagor o wybodaeth am gyllideb y cyngor, sut rydym yn gwario ein harian a'r broses o osod y gyllideb, ewch i Budget | Newport City Council