Newyddion

Llyfrgell a Gwasanaethau Dysgu Oedolion yn y Gymuned - dweud eich dweud

Wedi ei bostio ar Wednesday 24th January 2024

Fel rhan o'n cynlluniau ar gyfer 2024/25 rydym yn cynnig rhai newidiadau i'r ffordd yr ydym yn darparu gwasanaethau llyfrgell a dysgu cymunedol i oedolion. 

Mae'r cynigion, sy’n destun ymgynghoriad yn rhan o'r broses i osod cyllideb, yn cynnwys trawsnewid Plasty Llys Malpas yn ganolfan ddysgu gymunedol newydd. 

Dros y pum mlynedd diwethaf, mae'r defnydd o lyfrgelloedd yng Nghasnewydd wedi lleihau ac wedi newid yn sylweddol.  Nod y cynnig yw ateb y galw cynyddol gan gwsmeriaid, gwneud y defnydd gorau o adeiladau cymunedol, a datblygu allgymorth cymunedol llyfrgell. 

Byddai'r gwasanaeth yn rhoi mwy o bwyslais ar ymgysylltu â'r cyhoedd gyda mwy o ddigwyddiadau a gweithgareddau sy'n hyrwyddo darllen a gwella llythrennedd o fewn cymunedau Casnewydd.

Nod prosiect rhesymoli asedau'r cyngor hefyd yw gwneud y defnydd gorau o'i adeiladau i sicrhau eu bod yn gynaliadwy yn ariannol ac yn diwallu anghenion y gymuned. 

Byddai'r cynnig yn golygu bod llyfrgell Betws yn symud i'r ganolfan gymunedol, gan gadw'r ddarpariaeth yn y ward.  Byddai llyfrgell Malpas yn symud i Malpas Court gan wella'r cynnig o'r adeilad hwn ymhellach.  Fel dwy o'r llyfrgelloedd a ddefnyddir leiaf, byddai Pilgwenlli a Sain Silian yn cau. Fodd bynnag, byddai'r ddau safle yn elwa o gynnig lleol pwrpasol a gwell gan lyfrgellydd cymunedol newydd. 

Byddai unrhyw adeilad nad yw'n cael ei ddefnyddio bellach yn cael ei ystyried ar gyfer trosglwyddo asedau cymunedol i grwpiau cymunedol, defnydd gwahanol gan y cyngor, neu ei werthu.

Mae dau ddigwyddiad cyhoeddus yn cael eu cynnal lle gallwch ddysgu mwy am y cynigion a dweud eich dweud:

 

Dydd Llun 29 Ionawr 2024

12 – 1pm

Llyfrgell Pilgwenlli

111-110 Commercial Road

Casnewydd

NP20 2GW

 

Dydd Mercher 31 Ionawr 2024

12.30 - 2.30pm

Canolfan Ddysgu Cymunedol a Llyfrgell Sain Silian

Beaufort Road

Casnewydd

NP19 7PB

 

Gallwch hefyd ddarllen y cynnig llawn ar wefan y cyngor a dweud eich dweud yn www.newport.gov.uk/cyllideb

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.