Newyddion

Dweud eich dweud ar gynigion cyllideb 2024-25

Wedi ei bostio ar Thursday 11th January 2024
Brief2

Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi ystyried ei gyllideb ac wedi nodi nifer o gynigion ar gyfer darparu gwasanaethau yn 2024/25.

Bydd ymgynghoriad cyhoeddus nawr yn cael ei gynnal rhwng 11 Ionawr a 9 Chwefror 2024.

Dywedodd y Cynghorydd Mudd, arweinydd y cyngor: “Mae'r galw cynyddol am wasanaethau yn parhau i fod yr her fwyaf i ni. Mae cost darparu'r gwasanaethau hanfodol hynny yn gorbwyso'r cyllid sydd ar gael i ni yn sylweddol.

“Rydym yn parhau i weld mwy o angen am ofal cymdeithasol a darpariaeth digartrefedd i blant, gyda phroblemau etifeddol Covid a'r heriau presennol o ran costau byw yn effeithio ar y ddau.

“Mae poblogaeth Casnewydd hefyd wedi tyfu'n sylweddol ac yn gyflym dros y blynyddoedd diwethaf sy'n rhoi pwysau ychwanegol ar yr holl wasanaethau.

“Mae'r cyngor yn darparu dros 800 o wasanaethau ar gyfer tua 160,000 o bobl sy'n byw mewn mwy na 65,000 o aelwydydd. Ein prif nod, fel bob amser, yw sicrhau bod y gwasanaethau mwyaf sylfaenol yn cael eu cynnal ar gyfer preswylwyr ac mae hynny'n cael ei adlewyrchu yng nghynigion cyllideb eleni.”

Mae'r cynigion yn cynnwys cynnydd o 8.5 y cant yn nhreth y cyngor. Mae'r arian a godir drwy'r dreth gyngor yn cyfrif am lai na chwarter cyllideb gyffredinol y cyngor.

Ychwanegodd y Cynghorydd Mudd, “Gall hyn ymddangos yn uchel, ond dylid ystyried ychydig o bwyntiau allweddol.

“Mae ein man cychwyn yn is na bron pob cyngor arall yng Nghymru a'r DU. Mewn termau arian parod, mae'r cynnydd yn llawer is nag y gallai'r ganran ei awgrymu.

“Mae'r rhan fwyaf o gartrefi Casnewydd ym mandiau A i C, felly byddai'r rhan fwyaf o aelwydydd yn gweld cynnydd o rhwng £1.50 a £2.01 yr wythnos. Bydd yn dal i fod yn un o'r cyfraddau treth gyngor isaf yng Nghymru a'r DU.

“Mae'r cyngor hefyd yn cefnogi'r rhai sydd angen ac sy'n gymwys i gael cymorth ariannol gyda'u bil treth gyngor. Ni fydd aelwydydd sy'n dioddef heriau ariannol yn talu'r cynnydd hwn gan y bydd cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor yn dal i'w cefnogi.

“Byddwn yn gofyn i bawb edrych y tu hwnt i'r newid canrannol pennawd a ffocysu ar y codiad weddol isel mewn termau punnoedd a cheiniogau, i wybod y bydd y rhai sydd angen cymorth gyda'u bil yn parhau i'w dderbyn, a bod y cynnydd hwn yn diogelu gwasanaethau hanfodol ar gyfer y rhai mwyaf agored i niwed tra'n parhau i fod yn un o'r cyfraddau treth gyngor isaf yng Nghymru a'r DU.”

Yn ogystal ag arbedion arfaethedig, mae'r cynigion hefyd yn manylu ar feysydd a fydd yn derbyn buddsoddiad ychwanegol.

Mae'r rhain yn cynnwys meysydd blaenoriaeth gan gynnwys gofal cymdeithasol, darpariaeth i'r digartref ac ysgolion.

Mae'r galw am ofal cymdeithasol i oedolion a phlant yn parhau i gynyddu, felly cynigir £3 miliwn i helpu i reoli'r galw hwnnw a darparu cefnogaeth i rai o'n preswylwyr mwyaf agored i niwed.

Yn yr un modd, mae digartrefedd a'r galw am lety dros dro yn parhau i gynyddu, felly cynigiwyd £600,000 ychwanegol i gefnogi'r gwasanaeth.

Mae'r gyllideb hefyd yn cydnabod y pwysau sydd ar ysgolion ac wedi blaenoriaethu cyllid sylweddol ar gyfer cyflogau staff, y galw cynyddol o ganlyniad i gynnydd yn nifer y disgyblion, ac ar gyfer cymorth i'r rheini ag anghenion dysgu ychwanegol.

Esboniodd y Cynghorydd Mudd hefyd yng nghyfarfod y cabinet pam fod ymgynghoriad cyllideb eleni wedi dechrau'n hwyrach nag mewn blynyddoedd blaenorol: “Fel llawer o gynghorau ledled Cymru a'r DU, rydym wedi dechrau ein hymgynghoriad cyllideb yn hwyrach na'r arfer fel bod gennym sicrwydd ynghylch y cyllid y byddwn yn ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru, ac yn ei dro gwell dealltwriaeth o'r gwir fwlch yn y gyllideb.

“Er bod Casnewydd wedi derbyn y cynnydd canrannol uchaf o gynghorau Cymru, mewn termau go iawn rydym yn dal i fod ymhell ar ei hôl hi o ran lle mae angen i ni fod.

“Rydyn ni'n wynebu toriadau sylweddol i lawer o'r grantiau rydyn ni'n eu derbyn, ac mae effaith y gostyngiadau hyn yn sicr o fod yn sylweddol.

“Ers blynyddoedd, mae llywodraeth y DU wedi tanariannu llywodraeth leol. Ers dechrau cyni ariannol, mae cynghorau yng Nghymru wedi colli dros £1biliwn o'u cyllidebau.

“Rydym yn galw ar Lywodraeth y DU i gynyddu'r setliad llywodraeth leol i Lywodraeth Cymru yn ei datganiad ym mis Mawrth er mwyn sicrhau bod mwy o arian ar gael i gynghorau ei wario ar wasanaethau hanfodol. Dim ond £305 miliwn ychwanegol y mae'r setliad drafft presennol yn ei ddarparu i Lywodraeth Cymru dros gyfnod o ddwy flynedd.

“Mae hyn yn golygu bod gan Lywodraeth Cymru tua £160 miliwn y flwyddyn nesaf i gwrdd â'r holl bwysau ar y GIG, llywodraeth leol, yr holl wasanaethau eraill y mae'n eu darparu i bobl Cymru.

“Nid yw setliad drafft Llywodraeth Cymru ar gyfer Casnewydd yn gwrthdroi'r pwysau eithafol ar wasanaethau nac yn dileu'r bwlch rhwng ein cyllideb sydd ar gael a chost wirioneddol darparu gwasanaethau. Ond mae'n rhoi rhywfaint o gyfle i ni ystyried sut rydym yn darparu cyllideb gytbwys.”

Dweud eich dweud

Mae cynigion ar gyfer 2024/25 ar gael i'w gweld yn www.newport.gov.uk/budget lle gallwch hefyd gael rhagor o wybodaeth am o ble mae cyllid y cyngor yn dod a her gyffredinol y gyllideb.

Gellir cyflwyno sylwadau ysgrifenedig hefyd i'r TÎM POLISI A PARTNERIAETH RHADBOST, Cyngor Dinas Casnewydd, Y Ganolfan Ddinesig, Casnewydd NP20 4UR.

Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn rhedeg tan 9 Chwefror 2024. Bydd yr holl gynrychiolaethau yn cael eu hystyried cyn cyfarfod y cabinet ar 14 Chwefror pan fyddant yn gwneud eu hargymhellion terfynol ar y gyllideb gyffredinol ar gyfer 2024/25.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.