Newyddion

Gall pawb gyfrannu i gefnogi plant sy'n derbyn gofal

Wedi ei bostio ar Monday 8th January 2024

Nod yr ymgyrch genedlaethol yw ysbrydoli pobl o bob cefndir i ystyried maethu gydag awdurdod lleol. 

Mae mwy na 7,000 o blant yn y system ofal yng Nghymru, ond dim ond 3,800 o deuluoedd maeth. 

Yng Nghasnewydd, mae 232 o blant mewn gofal maeth ar hyn o bryd ac mae gennym 134 o aelwydydd maethu awdurdod lleol. 

Heddiw, aeth Maethu Cymru, y rhwydwaith cenedlaethol o 22 o dimau maethu awdurdodau lleol Cymru, ati gyda’r nod beiddgar o recriwtio dros 800 o deuluoedd maeth erbyn 2026, i ddarparu cartrefi diogel i bobl ifanc lleol. 

Mae Maethu Cymru Casenwyddwedi ymuno â’r ymgyrch newydd, ‘gall pawb gynnig rhywbeth,’ gan ddefnyddio eu hased mwyaf – gofalwyr maeth presennol – i rannu profiadau realistig o ofal maeth ac archwilio’r nodweddion dynol bach ond arwyddocaol sydd gan bobl a all wneud byd o wahaniaeth i berson ifanc mewn gofal. 

Mae Maethu Cymru wedi siarad â dros 100 o bobl i ddatblygu’r ymgyrch – gan gynnwys gofalwyr maeth, gweithwyr cymdeithasol, athrawon, aelodau’r cyhoedd, a’r rhai sy’n gadael gofal. 

Amlygodd ymatebion y grwpiau hyn dri pheth allweddol a oedd yn atal darpar ofalwyr rhag ymholi:

• Diffyg hyder yn eu sgiliau a'u gallu i gefnogi plentyn mewn gofal.

• Y gred nad yw maethu yn cyd-fynd â rhai ffyrdd o fyw.

• Camsyniadau ynghylch y meini prawf i ddod yn ofalwr. 

Gyda’r wybodaeth hon, mae Maethu Cymru wedi defnyddio straeon go iawn gofalwyr yng Nghymru i ddangos bod maethu awdurdodau lleol yn hyblyg, yn gynhwysol, ac yn dod â chyfleoedd hyfforddi a datblygiad proffesiynol helaeth. 

Fe wnaeth hysbyseb ar gyfer gofalwyr maeth yn y South Wales Argus yn ôl yn 1972 dynnu sylw Sylvia ac mae hi wedi bod yn maethu plant byth ers hynny. 

 "Penderfynais i wneud cais gan fy mod yn teimlo y byddai'n hyfryd rhoi cartref cariadus i blentyn yr un fath ag oedd gan fy nau fachgen fy hun. Roedd fy mhlentyn cyntaf yn fachgen tair oed a arhosodd gyda mi am dair blynedd ar ddeg. 

"Ers hynny rwyf wedi maethu llawer o blant dros y 51 mlynedd yr wyf wedi bod yn ofalwr maeth cymeradwy. Rwyf bellach yn 77 oed ac nid oes gennyf unrhyw gynlluniau ar gyfer ymddeol. 

"Ar hyn o bryd mae gen i blentyn 2 oed sydd wedi bod gyda fi am chwe mis a chyn hynny roedd gen i fabi newydd-anedig oedd gyda mi am ddeg mis nes iddi fynd at ei theulu am byth. 

"Gall maethu fod yn heriol ar brydiau ond mae'n werth chweil gallu gwneud gwahaniaeth i fywydau'r rhai sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymuned." 

Dywedodd un arall o drigolion Casnewydd, Maggie: "Rwyf wedi byw yng Nghasnewydd ers blynyddoedd lawer ac wedi ymgymryd â llawer o swyddi. Mae'r rhain yn cynnwys bod yn ofalwr, yn lanhawr ac yn gynorthwyydd gofal iechyd. Rwyf hefyd wedi gweithio ym maes eiddo. 

"Rwyf wedi bod yn maethu ers 12 mlynedd a hoffwn ddweud y gall unrhyw un o unrhyw gefndir wneud cais. Mae gen i fy mhlant fy hun sy'n oedolion a'm hwyrion, ond rwyf hefyd yn adnabod gofalwyr maeth nad oes ganddynt blant biolegol eu hunain. Mae gen i deulu a ffrindiau sy'n ofalwyr maeth. 

"Rwy'n mwynhau maethu yn fawr gan ei fod yn rhoi ymdeimlad o bwrpas i mi. Rwy'n mwynhau gweld y bobl ifanc rwy'n gweithio gyda nhw'n aeddfedu ac yn troi yn oedolion ifanc. Rwyf wedi gweithio gyda phlant o lawer o wahanol oedrannau yn ogystal â phlant o wahanol gymunedau a diwylliannau. Rwyf wedi dysgu llawer ganddyn nhw. 

"Rwy'n bersonol yn mwynhau gweithio gyda phobl ifanc yn eu harddegau ond rwy'n adnabod gofalwyr eraill sy'n ffafrio plant iau. Mae'r awdurdod lleol yn darparu llawer o gefnogaeth i'w ofalwyr maeth." 

Ar hyn o bryd, mae Cymru yn y broses o newid system gyfan ar gyfer gwasanaethau plant.

Gwnaeth y newidiadau a gynigir yng nghytundeb cydweithredu 2021 rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru ymrwymiad clir i ‘ddileu elw preifat o ofal plant sy’n derbyn gofal’. 

Mae hyn yn golygu, erbyn 2027, y bydd gofal plant sy’n derbyn gofal yng Nghymru yn cael ei ddarparu gan sefydliadau sector cyhoeddus, elusennol neu ddielw, ac mae’r angen am ofalwyr maeth awdurdodau lleol yn fwy nag erioed. 

Mae’r ymgyrch yn dechrau ddydd Llun 8 Ionawr ar draws teledu, gwasanaethau ffrydio, radio, digidol, cyfryngau cymdeithasol, a chyda digwyddiadau amrywiol mewn cymunedau lleol ledled Cymru. 

I gael rhagor o wybodaeth am faethu, neu i wneud ymholiad

 

 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.