Argymhelliad premiwm y dreth gyngor
Wedi ei bostio ar Thursday 11th January 2024
Mae cabinet Cyngor Dinas Casnewydd yn argymell bod pob aelod yn cefnogi cynnig i godi premiwm treth gyngor o 100% ar eiddo gwag tymor hir ac ail gartrefi.
Mae'r rhan fwyaf o awdurdodau lleol Cymru eisoes wedi cyflwyno premiwm y dreth gyngor. Caniateir i gynghorau godi hyd at 300%.
Canfu ymgynghoriad ar dâl arfaethedig fod 76 y cant o’r 470 o ymatebion o blaid i'r cyngor wneud mwy i fynd i'r afael â phroblem cartrefi gwag.
Roedd mwy na hanner o blaid cyflwyno premiwm y dreth gyngor gyda dim ond tua thraean yn anghytuno. Y lefel fwyaf poblogaidd o bremiwm ymhlith y rhai a ymatebodd oedd 100 y cant.
Roedd yr ymgynghoriad hefyd yn gofyn am farn pobl ar eiddo y dylid eu heithrio rhag premiwm.
Argymhelliad y cabinet i'r Cyngor llawn yw y dylid cyflwyno premiwm y dreth gyngor o 100% ar eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi o 1 Ebrill 2024.
O ganlyniad i'r ymgynghoriad, mae'r cabinet hefyd yn cynnig eithriadau lleol ychwanegol i'r rhai statudol sydd eisoes ar waith. Mae’r rhain fel a ganlyn:
- Ni fyddai'n rhaid i berchenogion newydd eiddo a fuodd yn wag yn yr hir dymor dalu premiwm am dri mis neu hyd at chwe mis os bydd gwaith adeiladu mawr yn cael ei gynnal.
- Dim premiwm ar eiddo sy'n rhan o fusnes ac nad oes ganddynt fynediad ar wahân.
Dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd, arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd: "Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad a rhoi adborth mor werthfawr. Rydym wedi gwrando ac wedi cynnwys eithriadau ychwanegol yn ein hargymhelliad i'r Cyngor llawn.
"Bydd premiwm y dreth gyngor yn arf arall yn ein strategaeth i fynd i'r afael â mater eiddo preswyl gwag hirdymor yn y ddinas. Mae llawer o bwysau ar dai ac rydym wedi ymrwymo i ddod ag anheddau gwag yn ôl i ddefnydd buddiol.
"Gall perchnogion a landlordiaid gael cefnogaeth a chyngor gan ein tîm cartrefi gwag pwrpasol ynglŷn â throi eu tai gwag yn gartrefi."
Gael gwybod mwy.
Bydd y Cyngor llawn yn ystyried argymhellion y cabinet yn ei gyfarfod nesaf.