Cytuno ar bremiwm y dreth gyngor
Wedi ei bostio ar Thursday 25th January 2024
Mae cyngor llawn Casnewydd yn argymell bod pob aelod yn cefnogi cynnig i godi premiwm y dreth gyngor o 100% ar eiddo gwag tymor hir ac ail gartrefi.
Mae'r rhan fwyaf o awdurdodau lleol Cymru eisoes wedi cyflwyno premiwm y dreth gyngor. Caniateir i gynghorau godi hyd at 300%.
Canfu ymgynghoriad ar dâl arfaethedig fod 76 y cant o’r 470 o ymatebion o blaid i'r cyngor wneud mwy i fynd i'r afael â phroblem cartrefi gwag.
Roedd mwy na hanner o blaid cyflwyno premiwm y dreth gyngor gyda dim ond tua thraean yn anghytuno. Y lefel fwyaf poblogaidd o bremiwm ymhlith y rhai a ymatebodd oedd 100 y cant.
Roedd yr ymgynghoriad hefyd yn gofyn am farn pobl ar eiddo y dylid eu heithrio rhag premiwm.
Cymeradwyodd y cyngor llawn argymhelliad y cabinet i'r cyngor llawn y dylid cyflwyno premiwm y dreth gyngor o 100% ar eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi o 1 Ebrill 2024.
Bydd eithriadau lleol ychwanegol i'r rhai statudol sydd eisoes ar waith fel a ganlyn:
- Ni fyddai'n rhaid i berchenogion newydd eiddo a fuodd yn wag yn yr hir dymor dalu premiwm am dri mis neu hyd at chwe mis os bydd gwaith adeiladu mawr yn cael ei gynnal.
- Dim premiwm ar eiddo sy'n rhan o fusnes ac nad oes ganddynt fynediad ar wahân.
Gall perchnogion a landlordiaid gael cefnogaeth a chyngor gan ein tîm cartrefi gwag pwrpasol ynglŷn â throi eu tai gwag yn gartrefi.
Ewch i www.newport.gov.uk/cartrefigwag i gael gwybod mwy.