Newyddion

Mae'r cyngor yn bwrw ymlaen â'r gwaith i gael strydoedd glanach gyda cherbyd glanhau trydanol newydd

Wedi ei bostio ar Wednesday 31st January 2024

Mae cerbyd newydd yn defnyddio pŵer ynni adnewyddadwy i lanhau strydoedd Casnewydd.

Mae Golchwr Stryd Hydro Addex Electra 2.0, yr ychwanegiad diweddaraf i fflyd cerbydau trydan Cyngor Dinas Casnewydd, eisoes yn gweithredu yng nghanol y ddinas.

Mae'r cyngor yn rhoi’r cerbyd ar brawf i ddechrau i weld pa effaith mae'n ei gael ar ein hamserlenni glanhau.

Mae'r Golchwr Stryd yn rhedeg ar bŵer trydan 100%. Amcangyfrifir ei fod yn arbed tua 22,500 kg o CO2 bob blwyddyn o'i gymharu â cherbyd diesel cyfatebol.

Yn ogystal â rhedeg ar ynni glân, nid yw'r cerbyd yn defnyddio unrhyw gemegau fel rhan o'i weithrediad, ac mae'n cael llai o effaith ar y palmant tra'n dal i gael yr un canlyniadau â ffon golchi â jet.

Mae natur gryno y cerbyd hefyd yn ein galluogi i'w ddefnyddio mewn ardaloedd fel isffyrdd.

Bydd defnyddio'r golchwr stryd mewn ardaloedd allweddol hefyd yn rhyddhau gweithwyr glanhau i'n helpu i lanhau mwy o'r ddinas.

Dwedodd y Cynghorydd Yvonne Forsey – yr aelod cabinet dros newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth:   "Rydym yn gwybod bod ein preswylwyr yn ystyried strydoedd glân fel un o'u prif flaenoriaethau ar gyfer Casnewydd.

"Rydym yn hyderus y bydd Golchwr Stryd Hydro, sy'n well i'r amgylchedd ac yn well i'n strydoedd, yn ein helpu i barhau i gyflawni'r flaenoriaeth honno, tra hefyd yn helpu i gyflawni ein blaenoriaeth o fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd ac ecolegol."

 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.