Newyddion

Mae parciau Casnewydd yn parhau i ddangos rhagoriaeth mewn safonau

Wedi ei bostio ar Tuesday 18th July 2023

Mae dau o barciau mwyaf Casnewydd yn dathlu unwaith eto ar ôl cadw eu statws Baner Werdd ar gyfer 2023/24.  

Mae Parc Beechwood a Pharc Belle Vue wedi eu cydnabod gan Cadwch Gymru'n Daclus am eu cyfleusterau ardderchog i ymwelwyr, safonau amgylcheddol uchel, ac ymrwymiad i ddarparu mannau gwyrdd o ansawdd gwych. 

Dyma fydd yr ail flwyddyn ar bymtheg yn olynol i Barc Belle Vue dderbyn statws Baner Werdd, ac mae Parc Beechwood yn dathlu am y chweched flwyddyn yn olynol. 

Mae Parc Belle Vue hefyd wedi cadw ei statws Treftadaeth Werdd am y chweched flwyddyn yn olynol. 

Mae trydydd safle sy'n cael ei reoli gan y Cyngor, Amlosgfa Gwent, hefyd wedi cadw ei statws Baner Werdd am y seithfed flwyddyn yn olynol.   

Mae pedwar safle cymunedol yn y ddinas, ardal gymunedol pwll pentref Bishton, pwll Llyswyry, gardd gymunedol Glade a'r gerddi Golchdy, hefyd wedi cael eu cydnabod gyda statws y Faner Werdd. 

Mae gwobrau'r Faner Werdd yn gynllun ar gyfer y DU gyfan sy'n cydnabod a gwobrwyo parciau a mannau gwyrdd sy'n cael eu rheoli'n dda. 

Cynhelir rhaglen Gwobr y Faner Werdd yng Nghymru gan Cadwch Gymru'n Daclus, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.  

Cafodd y safleoedd eu dyfarnu gan arbenigwyr gwirfoddol ar fannau gwyrdd a oedd yn asesu yn erbyn wyth maen prawf llym, gan gynnwys bioamrywiaeth, glendid, rheolaeth amgylcheddol ac ymglymiad y gymuned. 

Dywedodd y Cynghorydd Yvonne Forsey – yr aelod cabinet dros newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth:  "Rwyf wrth fy modd bod ein tri safle wedi cadw eu statws Baner Werdd. 

"Mae cynyddu a gwella ein seilwaith gwyrdd yn un o flaenoriaethau allweddol ein cynllun newid hinsawdd sefydliadol. Ynghyd â'n cais llwyddiannus am statws Dinas Coed y Byd, mae'r gwobrau hyn yn cydnabod gwaith caled ac ymroddiad ein swyddogion wrth reoli ein mannau gwyrdd er budd preswylwyr, ymwelwyr a natur."

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.