Newyddion

Hwb ariannol i'r diwydiannau creadigol mewn tair ardal yng Nghasnewydd

Wedi ei bostio ar Friday 21st July 2023

Bydd pobl greadigol mewn tri awdurdod lleol yn gallu manteisio ar gyllid sydd â’r nod o feithrin talent leol ac ehangu manteision clwstwr creadigol Caerdydd ar draws y rhanbarth.

Mae Canolfan yr Economi Greadigol ym Mhrifysgol Caerdydd yn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol Casnewydd, Sir Fynwy a Rhondda Cynon Taf ar brosiect newydd Canolfannau Clwstwr y Diwydiannau Creadigol a ariennir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC) a'r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS).

Y gobaith yw y bydd y tair canolfan beilot yn ysgogi buddsoddiad ac yn ehangu manteision diwydiannau creadigol ffyniannus Caerdydd ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR). Er bod cynlluniau penodol yn cael eu cwblhau, mae’n bosibl y bydd y rhain yn cynnwys agor lleoedd ffisegol lle gall pobl greadigol gydweithio â’i gilydd, mentrau i ddatblygu sgiliau lleol yn ogystal â chyfleoedd rhwydweithio a buddsoddi mewn prosiectau ymchwil ac arloesi newydd.

Mae’r prosiect diweddaraf hwn yn ehangu ar waddol prosiect Clwstwr Prifysgol Caerdydd. Rhaglen ymchwil a datblygu i ymgorffori prosesau arloesi yn sector y cyfryngau yn ne Cymru oedd Clwstwr. Rhwng 2018 a 23, ariannodd Clwstwr 118 o brosiectau ymchwil a datblygu a llwyddodd y diwydiant i greu cynnyrch, gwasanaethau a phrofiadau newydd yn y sectorau sgrin a newyddion.

Dyma a ddywedodd Jess Mahoney, Pennaeth Caerdydd Creadigol: “Ers 2015, mae Caerdydd Creadigol wedi bod yn gweithio i adrodd hanes sector creadigol Caerdydd, gan ddod ag artistiaid ac arloeswyr ynghyd i gydweithio a chysylltu â’i gilydd, gan helpu i ddiffinio hunaniaeth ddiwylliannol y ddinas. Bydd Canolfannau Clwstwr y Diwydiannau Creadigol yn ehangu ar y gwaith hwn, gan helpu i ymestyn cyrhaeddiad ac effaith clwstwr creadigol ffyniannus y ddinas. Bydd hyn yn cysylltu talent newydd â chyfleoedd yn y dyfodol ac yn taflu goleuni ar yr ymarferwyr a’r mentrau creadigol sy’n weithgar mewn cymunedau ledled Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.”

Dyma a ddywedodd y Cynghorydd Jane Mudd, arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd: “Mae gan Gasnewydd sîn ddiwylliannol ffyniannus ac mae nifer o bobl hynod dalentog a chreadigol yn gweithio mewn ystod o feysydd gan gynnwys celf, cerddoriaeth a theatr. Rwy wrth fy modd bod y ddinas ym mynd i elwa ar gyllid peilot i greu canolfan greadigol. Mae’r syniad o ddod ag unigolion creadigol ynghyd ac agor cyfleoedd newydd yn un cyffrous iawn. Rwy’n edrych ymlaen at weld y prosiect addawol hwn ar waith.” 

Bydd y prosiect yn cael ei roi ar waith rhwng nawr a mis Rhagfyr, a chaiff y prosiect ei werthuso erbyn mis Chwefror 2024.

Lle i gynnal prosiectau ymchwil ac ymgysylltu y mae mawr eu hangen ac sy’n canolbwyntio ar y diwydiannau creadigol yng Nghymru yw Canolfan yr Economi Greadigol Prifysgol Caerdydd. Yn y Ganolfan, mae tair rhaglen waith benodol ar waith: Caerdydd Creadigol, a sefydlwyd yn 2014; Clwstwr (2018 - 2023) a Media Cymru (2022 - 2026).

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.