Newyddion

Prydau ysgol am ddim i bob disgybl cynradd o fis Medi ymlaen

Wedi ei bostio ar Wednesday 19th July 2023

Bydd pob disgybl ysgol gynradd yng Nghasnewydd yn gallu cael pryd ysgol am ddim o fis Medi ymlaen. 

O dymor yr hydref, bydd Cyngor y Ddinas yn cyflwyno'r cynnig prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd cyn dyddiad targed Llywodraeth Cymru yn 2024. 

Roedd wedi gofyn i gynghorau ymestyn y cynllun i flynyddoedd tri a phedwar o fis Medi ond bydd disgyblion blynyddoedd pump a chwech hefyd yn cael eu cynnwys yng Nghasnewydd. 

Cafodd Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd eu darparu am y tro cyntaf y llynedd i ddysgwyr iau a chyflwynodd Casnewydd y cynllun eto cyn y dyddiad cau drwy ei gynnig i flynyddoedd un a dau yn ogystal â disgyblion derbyn fis Medi diwethaf. 

Dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd:  "Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru sydd wedi darparu’r cyllid i gefnogi’r ymrwymiad hwn i’n plant.

Yng Nghasnewydd, rydym yn ystyried bod y cynnig hwn yn hanfodol bwysig i les disgyblion ac rwy’n hynod falch ein bod wedi gallu ei gyflwyno’n gynt na’r disgwyl i holl ddisgyblion cynradd y ddinas. 

"Fe wnaethom addewid i helpu cymaint o blant a'u teuluoedd â phosibl, cyn gynted â phosibl, ac rydym wedi cadw'r addewid hwnnw.” 

Ychwanegodd y Cynghorydd Deb Davies – aelod cabinet dros addysg a'r blynyddoedd cynnar:  "Mae ymchwil wedi dangos bod plant yn dysgu cymaint yn well pan maen nhw'n wedi bwyta ac yn llawn. Mae clybiau brecwast wedi helpu'n sylweddol ond mae'r cynllun hwn yn gam enfawr ymlaen. 

"Rydym yn gwybod bod llawer o deuluoedd yn cael trafferth gyda'r costau byw ond efallai nad ydynt wedi cymhwyso ar gyfer prydau ysgol am ddim traddodiadol. Y gobaith yw y bydd hyn yn helpu i leddfu eu pryderon drwy sicrhau bod eu plant yn cael pryd o fwyd am ddim amser cinio ac y byddant yn barod i gymryd rhan mewn gwersi yn y prynhawn. 

"Byddwn hefyd yn annog rhieni a gofalwyr i wirio a oes ganddynt hawl hefyd i gael cymorth arall gyda chostau ysgol drwy fynd i’n gwefan neu gysylltu â'r cyngor." Gweler isod i gael rhagor o wybodaeth.

Sut bydd fy mhlentyn yn derbyn y prydau hyn?

Bydd disgyblion yn gallu cael prydau bwyd yn uniongyrchol drwy eu hysgol ar ddechrau'r tymor.

Does dim rhaid gwneud cais i gael pryd ysgol am ddim.

Pa gymorth arall sydd ar gael?

Gall teuluoedd sydd wedi bod yn gymwys yn draddodiadol i gael prydau ysgol am ddim gael cymorth ychwanegol o hyd ond rhaid iddynt wneud cais i'r Cyngor.

Mae'r manylion llawn ar gael yn www.newport.gov.uk/schoolmeals neu os na allwch wneud cais ar-lein, anfonwch e-bost [email protected] neu ffoniwch 01633 656656.

 

 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.