Hyfforddiant diogelwch bwyd hanfodol i fusnesau
Wedi ei bostio ar Thursday 14th December 2023
Mae swyddogion safonau masnach Cyngor Dinas Casnewydd wedi trefnu cyrsiau hyfforddiant alergenau bwyd i fusnesau lleol yn ddiweddar.
Wedi'i ariannu gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin, bu'r tair sesiwn yn llwyddiannus iawn a mynychwyd hwy gan 137 o bobl o 87 o fusnesau.
Dywedodd y Cynghorydd James Clarke, yr aelod cabinet dros gynllunio strategol, tai a rheoleiddio: "Mae'n rhaid i bobl sy'n dioddef o alergeddau bwyd fod yn ofalus nad ydyn nhw'n bwyta unrhyw beth a fydd yn achosi adwaith. Gall y canlyniadau fod yn ddifrifol iawn a hyd yn oed peryglu bywyd ar adegau.
"Mae gan fusnesau ddyletswydd gyfreithiol i wneud yn glir beth sydd mewn unrhyw fwyd maen nhw'n ei werthu a sicrhau nad yw'n peri risg i gwsmeriaid.
"Rwy'n falch iawn bod cynifer o gynrychiolwyr cyfrifol safleoedd bwyd lleol wedi cydnabod pa mor hanfodol yw hyn ac wedi penderfynu cymryd rhan yn y sesiynau hyfforddiant rhad ac am ddim hyn a chadw cwsmeriaid yn ddiogel."
Cafwyd adborth cadarnhaol gan y rhai a fynychodd y sesiynau gan gynnwys y canlynol:
- Rhoddwyd enghreifftiau yn y sesiwn ac roedd popeth yn ddealladwy.
- Rhoddwyd llawer o wybodaeth dda a chafodd popeth ei esbonio’n dda iawn.
- Ces i wybod am alergenau newydd.
- Roedd yn addysgiadol ac fe atebwyd yr holl gwestiynau; rhoddodd ddolenni i wefannau am ragor o wybodaeth.
- Dysgais i am agweddau pwysig alergenau a pha mor hanfodol yw cael dealltwriaeth o alergenau.
- Roedd yn cadarnhau’r hyn yr oeddwn i yn ei wybod yn barod ac fe ychwanegodd at fy wybodaeth.
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn un o bileri canolog agenda Ffyniant Bro llywodraeth y DU ac yn darparu £2.6 biliwn o gyllid i’w fuddsoddi’n lleol erbyn mis Mawrth 2025.
Nod y gronfa yw gwella balchder mewn ardaloedd a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU gan fuddsoddi mewn cymunedau ac ardaloedd, cefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau.
Mae'r Cyngor wedi derbyn mwy na £30 miliwn o'r gronfa ar gyfer ystod eang o brosiectau ledled y ddinas.