Newyddion

Cefnogi mannau cynnes cymunedol

Wedi ei bostio ar Friday 1st December 2023

Mae cynllun grant ar gyfer sefydliadau cymunedol i gynnig mannau cynnes i breswylwyr yn cael ei ehangu eleni yn dilyn llwyddiant y llynedd. 

Unwaith eto, mewn partneriaeth â GAVO, mae Cyngor Dinas Casnewydd yn gobeithio gallu cynorthwyo o leiaf 25 o grwpiau gyda'r potensial ar gyfer 700 o sesiynau sy'n agored i 9000 o bobl. 

Bydd sefydliadau'r trydydd sector yn cynnig amgylchedd diogel, croesawgar a chyfforddus i bobl a allai fod yn ei chael hi'n anodd gwresogi eu cartrefi neu sydd mewn perygl o unigedd. 

Dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd, Arweinydd y Cyngor: "Y llynedd, roedd y cynlluniau oedd yn cael eu cynnal gan y gymuned yn hynod boblogaidd. Rhoddwyd grantiau i 21 o grwpiau a gyflwynodd 448 o sesiynau, a fynychwyd gan fwy na 6,300 o breswylwyr. 

"Rydym eisiau adeiladu ar y llwyddiant hwnnw, gan ddefnyddio cyllid gan Gronfa Ffyniant Gyffredin (CFfG) llywodraeth y DU i helpu hyd yn oed mwy o sefydliadau i ddarparu lle cynnes i hyd yn oed mwy o breswylwyr y gaeaf hwn." 

Dywedodd y Cynghorydd Debbie Harvey, yr Aelod Cabinet dros les cymunedol: "Rwy'n falch iawn ein bod yn gallu cynnig cymorth ariannol eto. 

"Bydd yn helpu grwpiau lleol, sy’n ganolog i’n cymunedau, i gynnig cymorth hanfodol i breswylwyr yn ystod misoedd oeraf y flwyddyn." 

Gall sefydliadau sydd â diddordeb mewn gwneud cais am grant o hyd at £2,499 i helpu i ddarparu man cynnes fynd i https://www.gavo.org.uk/post/funding-for-newport-warm-spaces 

Gael gwybod mwy am gymorth a chyngor am gostau byw gan y cyngor a phartneriaid. 

Os oes gennych ymholiad, gallwch hefyd anfon e-bost i [email protected] a bydd yn cael ei drosglwyddo i un o'n timau neu sefydliad arall y credwn y gallai helpu, neu ffoniwch 01633 656656

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.