Dirwyon a dedfryd wedi'i gohirio i gyn-berchnogion bwyty
Wedi ei bostio ar Monday 4th December 2023
Cafodd dau gyn-berchennog bwyty ddedfrydau o garchar wedi'u gohirio a dirwy ar ôl pledio'n euog i droseddau hylendid bwyd difrifol.
Cafodd Aktar Miah ac Afzal Miah ddedfrydau o garchar am 12 mis a 10 mis yn y drefn honno, wedi'u gohirio am 18 mis gan farnwr yn Llys y Goron Caerdydd.
Derbyniodd Aktar orchymyn hefyd i gwblhau 160 awr o waith di-dâl, a gorchmynnwyd Afzal i gwblhau 150 awr.
Mae'n dilyn camau gorfodi llwyddiannus a gymerwyd gan Gyngor Dinas Casnewydd yn erbyn y ddau ddiffynnydd a'u busnes bwyd, Desi Kitchen (NPT) Ltd.
Roedd y weithred yn ymwneud â 53 o droseddau hylendid bwyd difrifol yn Jewel Balti, ar Chepstow Road, a'r methiant i gynnal safonau hylendid bwyd da yn Jewel Balti.
Fe wnaeth swyddogion o dîm iechyd yr amgylchedd y cyngor ymweld â Jewel Balti ym mis Ionawr 2022. Roedd y busnes ar agor ac yn masnachu pan gyrhaeddodd y swyddogion. Cafodd yr ymweliad ei wneud yn dilyn cwynion i’r cyngor am amodau aflan ar y safle.
Yn ystod yr arolygiad, daeth swyddogion o hyd i dystiolaeth o’r canlynol:
- Pla chwilod du sylweddol yn effeithio ar offer ac ystafelloedd storio a pharatoi bwyd
- Pla llygod mawr yn yr ystafelloedd bwyd ac offer y tu allan. Gwelwyd llygod mawr yn symud trwy dyllau mewn waliau yn ystod yr ymweliad.
- Darganfuwyd hen fwyd wedi cronni ar y llawr, gyda nifer fawr o gynrhon a chwilod du
- Darganfuwyd bwyd wedi'i goginio heb ei orchuddio yn yr oergell, wedi'i storio mewn cynwysyddion anaddas
- Amodau budr ac aflan ar draws y safle
- Strwythur a gynhelir yn wael
- Cynhwysion wedi’u paratoi ac offer bwyd wedi'u storio mewn amodau anaddas lle gwelwyd chwilod duon hefyd
- Ceisiodd y busnes atal swyddogion rhag cynnal yr arolygiad.
Ar ôl i’r arolygiad gael ei gwblhau, cytunodd y busnes i gau'n wirfoddol er mwyn unioni'r materion a nodwyd.
Cyflwynodd y cyngor rybuddion gwella i'r busnes ac arweiniodd yr arolygiad at sgôr hylendid bwyd o sero - angen gwella ar frys. Roedd yr amodau'n cyfiawnhau camau gorfodi pellach.
Ni chafodd y materion eu hunioni, ac ni chydymffurfiwyd â'r rhybuddion gan arwain y cyngor i gymryd camau gweithredu pellach i erlyn y perchnogion.
Yn ogystal â'r dedfrydau a roddwyd, cafodd Desi Kitchen (NPT) Ltd ddirwy o £14,000 hefyd, a gorchmynnwyd i'r tri diffynnydd dalu costau gwerth cyfanswm o £13,400.
Gorchmynnwyd Aktar ac Afzal hefyd i dalu gordal dioddefwr o £228.
Dywedodd y Cynghorydd James Clarke, yr aelod cabinet dros gynllunio strategol, tai a rheoleiddio: "Mae deddfwriaeth hylendid bwyd yn rhan allweddol o'n system diogelu iechyd integredig. Mae ar waith i sicrhau bod busnesau'n gweithredu mewn modd diogel, i osgoi achosi afiechyd, ac i osgoi rhoi baich diangen ar y GIG.
"Mae'r cyfrifoldeb i gynnal safonau hylendid bwyd priodol yn disgyn ar ysgwyddau'r gweithredwr busnes bwyd.
"Mae'n amlwg o natur gadarn y dedfrydau a roddwyd gan y llys bod yr amodau a ganfuwyd yn Jewel Balti yn annerbyniol. Ni wnaeth y diffyg ymgysylltu, cynnydd gwael ac amodau annerbyniol parhaus yn y busnes ar ôl derbyn sgôr hylendid o sero adael unrhyw ddewis i ni ond erlyn troseddol.
"Dylai hyn roi rhybudd clir i unrhyw fusnes bwyd sy'n gweithredu o dan amodau mor aflan na fyddwn yn oedi cyn gweithredu'n gadarn os byddwn yn darganfod y fath ddiystyrwch i iechyd y cyhoedd."