Newyddion

Gwasanaeth casglu coeden Nadolig

Wedi ei bostio ar Wednesday 13th December 2023

Archebwch nawr i ni gasglu eich coeden Nadolig go iawn yn y flwyddyn newydd.

Byddwn yn rhedeg gwasanaeth casglu coed Nadolig go iawn arbennig o ddrws i ddrws rhwng dydd Llun 8 a dydd Gwener 12 Ionawr.

Mae'r gwasanaeth yn rhad ac am ddim, ond mae'n rhaid i chi ei archebu gyda ni ymlaen llaw.

Y cyfan mae angen ei wneud yw archebu slot, tynnu’r holl addurniadau ac unrhyw stand neu bot, yna gadael eich coeden yn eich man casglu arferol erbyn 6am ar eich diwrnod casglu. Byddwn ni'n gofalu am bopeth arall!

ARCHEBWCH CASGLU COED NADOLIG GO IAWN

Bydd pob coeden sy'n cael ei chasglu yn cael ei hasglodi a'i chompostio yn ein cyfleuster compostio mewnol.

Archebu slot yw'r ffordd hawsaf i gompostio eich coeden yn gyfrifol. Trwy leihau gwastraff ac ailgylchu, byddwch yn gwneud eich rhan i helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd ac ecolegol.

Gallwch hefyd fynd â'ch coeden i'r ganolfan ailgylchu gwastraff cartref ar Ffordd y Dociau. Mae'r gwasanaeth hwn hefyd yn rhad ac am ddim i drigolion Casnewydd.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.