Dathlu Diwrnod Hawliau Gofalwyr yng Nghasnewydd
Wedi ei bostio ar Tuesday 15th November 2022
Eleni, caiff Diwrnod Hawliau Gofalwyr ei gynnal ddydd Iau 24 Tachwedd a bydd yn codi ymwybyddiaeth o hawliau gofalwyr di-dâl ac yn cydnabod eu cyfraniad at ein cymdeithas.
I ddathlu Diwrnod Hawliau Gofalwyr, bydd Tîm Cysylltwyr Cymunedol y cyngor yn cynnal digwyddiad gwybodaeth yn Theatr Glan yr Afon.
Bydd y tîm gyda phartneriaid lleol rhwng 1pm a 6pm a bydd wrth law i ddarparu gwybodaeth a chyngor ar gyfer gofalwyr di-dâl o bob oed a chefndir. Darperir lluniaeth am ddim hefyd.
Gofalwr yw rhywun o unrhyw oedran sy'n gofalu am berthynas neu ffrind na allai ymdopi heb ei gymorth. Gall hyn olygu gofalu am rywun sy’n sâl, yn anabl, â salwch iechyd meddwl, problemau cam-drin sylweddau neu y mae angen ychydig mwy o gymorth arno wrth fynd yn hŷn.
Mae gan Gyngor Dinas Casnewydd gyfoeth o gymorth a gwybodaeth ar-lein i ofalwyr gan gynnwys manylion cyswllt y Tîm Cysylltwyr Cymunedol. Ewch i www.newport.gov.uk/gofalwyr.
I gael gwybod mwy am hawliau gofalwyr, ewch i https://llyw.cymru/hawliau-gofalwyr