Croeso cynnes i drigolion
Wedi ei bostio ar Friday 16th December 2022
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn gwahodd trigolion sy'n cael trafferth gyda gwresogi a biliau hanfodol eraill, neu unigrwydd, y gaeaf hwn i dreulio amser yn un o'i lleoliadau ar draws y ddinas.
Mae hefyd yn cynnig grantiau trwy bartneriaeth gyda GAVO i helpu sefydliadau eraill sydd am ddarparu mannau cynnes tebyg.
Gyda'r saith canolfan sy'n eiddo i'r cyngor eisoes wedi'u nodi, mae'r cyngor yn ymwybodol o dros 20 o adeiladau sydd ar agor i drigolion yn ystod yr wythnos ar draws y ddinas.
A'r gobaith ydy y bydd hyn yn tyfu wrth i fwy o grwpiau a sefydliadau fanteisio ar arian Llywodraeth Cymru sydd ar gael i'r cyngor.
Lle bo'n bosib, bydd y cyngor yn annog sefydlu mannau cynnes mewn ardaloedd lle nad oes darpariaeth ar hyn o bryd i'w gwneud mor hygyrch â phosibl i drigolion ble bynnag y maen nhw'n byw yn y ddinas.
O ddydd Llun 19 Rhagfyr, cynhelir sesiynau croeso cynnes gan y cyngor yng Nghanolfannau Cymunedol Alway, Betws, Ringland, Y Gaer a Maesglas, yn ogystal â Chanolfan Hope Somerton RASCAL a Chanolfan Mileniwm Pilgwenlli.
Yn ogystal â chynnig lle cynnes i drigolion a chyfle i gwrdd â phobl eraill, gallant hefyd gael cyngor ac arweiniad gan weithwyr cymunedol ac arbenigwyr o sefydliadau eraill i roi cymorth ar gostau byw.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Jane Mudd: "Mae cefnogi ein gilydd yn bwysig iawn, yn enwedig yn ystod cyfnod o argyfwng. Gall pobl fod yn cael trafferth nid yn unig gyda thalu biliau ond hefyd yn teimlo'n ynysig a ddim yn gwybod lle i droi.
"Dwi'n falch felly ein bod ni wedi gallu datblygu arlwy fydd yn darparu llawer mwy na lle cynnes. Byddant hefyd yn cynnig cwmnïaeth, gweithgareddau, a chyngor gan ein gweithwyr cymunedol am gefnogaeth arall a allai fod ar gael a sut i gael mynediad ato."
Dywedodd y Cynghorydd Debbie Harvey, yr aelod cabinet dros les cymunedol: "Mae'r argyfwng costau byw presennol yn golygu y bydd llawer o bobl yn ei chael hi'n anodd gwresogi eu cartrefi y gaeaf hwn. Rydym yn gobeithio y bydd eu croesawu i'n hadeiladau cymunedol yn helpu i leddfu'r costau hynny ychydig.
"Mae hefyd yn wych gweld bod sefydliadau eraill hefyd yn sefydlu mannau cynnes i helpu aelodau o'u cymunedau lleol a hoffwn ddiolch i GAVO am ein helpu i ddosbarthu arian yr ydym yn gobeithio y bydd yn annog eraill i wneud yr un peth."
Yn ogystal, bydd holl lyfrgelloedd y cyngor yn parhau i gynnig lloches i breswylwyr yn ystod eu horiau agor. Mae gan bob safle Wi-Fi am ddim a mynediad i offer TG, llyfrau llyfrgell a chyngor ar y cymorth sydd ar gael o ran delio â chostau cynyddol.
Bydd llyfrgelloedd mwy yn cynnal digwyddiadau eraill hefyd, fel gemau bwrdd, dyfeisiau tabled, grwpiau rhannu stori a grwpiau darllen.
Dysgwch ble mae gofodau cynnes ar draws y ddinas wrth https://www.newport.gov.uk/cy/Support-and-Advice/Warm-welcome-sessions.aspx
Gall sefydliadau sydd â diddordeb mewn gwneud cais am grant i helpu i ddarparu eu gofod cynnes eu hunain ymweld â https://www.gavo.org.uk/post/warm-spaces-grants-for-newport
I gael rhagor o wybodaeth am y llyfrgelloedd, gan gynnwys amseroedd agor, ewch i www.newport.gov.uk/libraries
I ddysgu mwy am y cymorth a'r cyngor sydd ar gael ewch i www.newport.gov.uk/support
Gall preswylwyr sydd heb fynediad digidol, ffonio'r hybiau cymdogaeth ar 0808 196 3482 neu'r cyngor ar 01633 656656.