Newyddion

Cynigion cyllideb Casnewydd - adlewyrchiad o'r prif heriau sy'n wynebu awdurdodau lleol

Wedi ei bostio ar Thursday 8th December 2022

Bydd cabinet Cyngor Dinas Casnewydd yn ystyried yr wythnos nesaf sut y bydd yn newid y gwasanaethau y mae'n eu darparu yn wyneb her ariannol fawr.

Gyda bwlch yn y gyllideb o £27.6 miliwn, bydd llawer o benderfyniadau anodd i'w gwneud.

Fis diwethaf, fe wnaeth y Cynghorydd Jane Mudd, Arweinydd y Cyngor, amlinellu maint yr her mewn datganiad ar fideo (https://youtu.be/A2dLSpjHyIs) ac ers hynny, mae'r awdurdod wedi bod yn edrych ar bob opsiwn i gyfyngu effaith y newidiadau anochel ar bobl Casnewydd.

Yn y cyfarfod ddydd Mercher 14 Rhagfyr, bydd 29 o gynigion yn cael eu hystyried yn fanwl cyn i'r cabinet gytuno ar ba rai fydd yn mynd allan ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.

Bydd yr ymgynghoriad yn para tan 2 Chwefror 2023. Bydd yr holl sylwadau yn cael eu hystyried pan fydd y cabinet yn cyfarfod eto ar 14 Chwefror pan fyddant yn gwneud eu hargymhellion terfynol ar y gyllideb gyffredinol ar gyfer 2023/24.

Gellir darllen crynodeb o'r cynigion drafft sy'n cael eu hystyried yma.

Dywedodd y Cynghorydd Mudd: "Mae adlewyrchu ar faint o arian sydd ar gael a sut y gellir blaenoriaethu hynny'n realistig i ddarparu ein gwasanaethau pwysicaf wedi bod yn broses hynod o anodd - yn syml, nid yw'r ffigurau’n dal dŵr.

“Mae costau darparu gwasanaethau yn cynyddu yn yr un modd â chostau byw pawb. Ac ar yr un pryd, mae mwy o bobl yn cyrchu’r gwasanaethau hynny, gan gynyddu'r galw.

"Mae sawl ffactor ychwanegol, gan gynnwys methu â rhoi setliad cyllid teg i Gymru a dod â'r cymorth ynni gan Lywodraeth y DU i ben, ond wedi gwaethygu'r sefyllfa.

"A daw hyn yn fuan ar ôl blynyddoedd lawer o lymder pan wynebon ni doriadau i gyllidebau. Mae Cyngor Dinas Casnewydd eisoes wedi gwneud dros £90m o arbedion ers 2011, felly prin yw'r dewisiadau sydd ar ôl.

"Yn ychwanegol at hynny, mae dwy ran o dair o gyllideb y Cyngor yn cael eu gwario ar ysgolion, addysg a gofal cymdeithasol - y gwasanaethau cwbl hanfodol, lle mae arbedion yn anodd iawn i'w gwneud.

"Ond rwyf am sicrhau pawb y bydd yr heriau sy'n cael eu hwynebu gan drigolion, busnesau ac unigolion bob amser wrth wraidd ystyriaethau'r Cyngor."

Mae'r arian sy'n cael ei godi trwy'r dreth gyngor yn cyfrif am lai na chwarter cyllideb gyffredinol y Cyngor. Mae'r rhan fwyaf o'r arian yn dod gan Grant gan Lywodraeth Cymru.

Codir £650,000 yn ychwanegol am bob un y cant o gynnydd yn y dreth gyngor.

Ychwanegodd y Cynghorydd Mudd: "Gyda bwlch o £27.6 miliwn yn y gyllideb, rhaid i'r Cyngor ystyried codi’r dreth gyngor er mwyn creu mwy o incwm. Gwneir hyn gyda'r gwerthfawrogiad llawn ei fod yn fil mawr i aelwydydd ar adeg sydd eisoes yn heriol. Rydym wedi cynnal un o'r cyfraddau treth gyngor isaf yng Nghymru ers cyfnod hir iawn a hyd yn oed wrth godi’r gyfradd i lefel uwch nag y dymunem, rydym yn debygol iawn o barhau i godi’n llai na’n hardaloedd cyfagos."

O fewn y cynigion drafft sy'n cael eu hystyried gan y cabinet mae cynnydd o 9.5 y cant yn y dreth gyngor.

Mae mwyafrif cartrefi Casnewydd yn cwympo yn y bandiau A i C, felly mae hyn yn gynnydd o rhwng £1.55 a £2.07 yr wythnos.

Bydd cyfarfod y cabinet ar nos Fercher 14 Rhagfyr yn cael ei ddarlledu ar wefan y Cyngor. Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei lansio yn dilyn y cyfarfod yn www.newport.gov.uk/dweudeichdweud

I gael mwy o wybodaeth am gyllideb y Cyngor, sut rydym yn gwario ein harian a’r broses o bennu’r gyllideb, ewch i www.newport.gov.uk/cyllideb

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.