Newyddion

Gweithio mewn partneriaeth i fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon yn Ringland

Wedi ei bostio ar Tuesday 13th October 2020

Mae Cartrefi Dinas Casnewydd, darparwr tai cymdeithasol mwyaf Casnewydd, wedi bod yn gweithio gyda thrigolion Ringland a Chyngor Dinas Casnewydd i fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon yn yr ardal.  

 Dros y misoedd diwethaf, bu cynnydd sylweddol mewn tipio anghyfreithlon yn yr ardal y tu ôl i siopau Ringland. Yn ogystal â bod yn hyll, mae'r math hwn o dipio anghyfreithlon yn achosi risgiau iechyd a diogelwch a thân difrifol i bobl sy'n byw yn yr ardal gyfagos.

 Dywedodd Mark Chircop, swyddog gwasanaethau preswyl Cartrefi Dinas Casnewydd: "Mae tipio anghyfreithlon yn beryglus, yn annerbyniol ac yn effeithio ar ein trigolion yn mwynhau eu cartrefi a'u hamgylchedd lleol. Ar un adeg, roeddem yn casglu hyd at ddau lwyth lori bach o sbwriel anghyfreithlon y dydd o'r safle. Mae hyn yn annerbyniol ac nid yw'n deg i breswylwyr sy'n rheoli eu gwastraff mewn ffordd gyfrifol, felly yr oeddem am gymryd camau i fynd i'r afael â'r ymddygiad gwrthgymdeithasol hwn.

 "I ddod o hyd i'r rhai sy'n gyfrifol am yr ymddygiad gwrthgymdeithasol hwn, buom yn gweithio gyda Chyngor Dinas Casnewydd i ddod o hyd i'r rhai sy'n gyfrifol a dod â hwy i gyfiawnder. Gwnaethom hyn drwy fynd drwy'r gwastraff a gafodd ei dipio'n anghyfreithlon i ddarganfod pwy oedd wedi gollwng eu sbwriel a arweiniodd at y Cyngor yn rhoi 18 o hysbysiadau rhybuddio i bobl yr oedd eu gwastraff yn y sbwriel a adawyd.

 

"Ers hynny, bu gostyngiad enfawr mewn tipio anghyfreithlon yn yr ardal. Rydym wedi mynd o gael gwared ar hyd at 250 o fagiau du llawn sbwriel wedi'u tipio'n anghyfreithlon y dydd i tua 20 bag yr wythnos. Mae hyn yn gyflawniad anhygoel ac ni allem fod wedi gwneud hynny heb weithio mewn partneriaeth. 

 

"Gwyddom na allwn fynd i'r afael â'r broblem hon ar ein pen ein hunain, a dyna pam mae gweithio gyda'r gymuned leol a'n partneriaid mor bwysig. Rydym am ddiolch i drigolion Ringland am ein helpu i gyflawni hyn a chymryd cymaint o falchder yn eich cymuned. Drwy gydweithio a chefnogi ein gilydd, rydym yn gwneud ein cymunedau'n lleoedd mwy diogel a brafiach i fyw ynddynt."

 

Dywedodd y Cynghorydd Roger Jeavons, aelod cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros wasanaethau’r ddinas: "Does dim esgusodion o gwbl dros dipio anghyfreithlon ac mae'n rhaid i bawb gymryd cyfrifoldeb am waredu gwastraff eu hunain yn ddiogel. Nid yw tipio anghyfreithlon yn deg ar breswylwyr eraill ac mae ganddo gost, i'r amgylchedd ac i'r rhai sy'n gorfod talu i gael gwared arno.

 

"Rwy'n falch iawn bod y Cyngor wedi gallu gweithio mewn partneriaeth â Chartrefi Dinas Casnewydd i fynd i'r afael â'r broblem hon yn Ringland gyda chanlyniadau mor gadarnhaol a hoffwn ddiolch i'r gweithwyr o'r ddau sefydliad am eu gwaith caled.

 

"Yn olaf, hoffwn rybuddio eraill sy'n ystyried tipio anghyfreithlon y byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i adnabod y rhai sy'n gyfrifol a byddwn yn cymryd camau yn eich erbyn. Mae cyflawnwyr yn wynebu dirwyon o hyd at £50,000 a hyd at 12 mis yn y carchar."