Newyddion

Cyngor yn nodi Diwrnod Aer Glân

Wedi ei bostio ar Thursday 8th October 2020

Wrth i Gymru a'r DU nodi Diwrnod Aer Glân, mae Cyngor Dinas Casnewydd am rannu rhywfaint o'r gwaith y mae'n ei wneud i wella ein hamgylchedd.

Diwrnod Aer Glân yw ymgyrch llygredd aer fwyaf y DU, sy'n ymgysylltu â miloedd o bobl mewn cannoedd o ddigwyddiadau, ac yn cyrraedd miliynau yn fwy drwy'r cyfryngau.

Bob blwyddyn, mae llygredd aer yn achosi hyd at 36,000 o farwolaethau yn y DU. Mae Sefydliad Iechyd y Byd a Llywodraeth y DU yn cydnabod mai llygredd aer yw'r perygl mwyaf o ran iechyd yr amgylchedd a wynebwn heddiw.

Nod Diwrnod Aer Glân yw gwella dealltwriaeth y cyhoedd o lygredd aer a sut mae'n effeithio ar ein hiechyd tra'n esbonio'r camau hawdd y gall pawb eu cymryd i fynd i'r afael â'r broblem.

Dywedodd y Cynghorydd Deb Davies, Aelod Cabinet y Cyngor dros Ddatblygu Cynaliadwy: "Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i wneud cymaint ag y gallwn i leihau llygredd aer, fel unigolion, cymunedau a busnesau er lles pob dinesydd, nawr ac yn y dyfodol, ein dinas a'r blaned.

"Fel cyngor, rydym yn ymdrechu'n barhaus i ddod o hyd i ffyrdd o leihau ein hôl troed carbon ein hunain ar yr un pryd ag annog y rhai sy'n byw, yn gweithio ac yn ymweld yma i wneud eu cyfraniadau eu hunain i wneud hon yn ddinas wyrddach.

"Rydym eisoes wedi cyflwyno amrywiaeth o fentrau o hyrwyddo bioamrywiaeth ar ein tir ein hunain i weithio i ddod yn sefydliad carbon niwtral erbyn 2030. Gallwn i gyd wneud gwahaniaeth, waeth bynnag pa mor fach a gallwch ddod o hyd i lawer o syniadau ar wefan Diwrnod Aer Glân."

Mae'r projectau sy'n cael eu datblygu gan y cyngor yn cynnwys:

  • Cynigion trafnidiaeth gynaliadwy fel gwella llwybrau troed a lonydd beicio yn ogystal â threialu nifer o barthau terfyn cyflymder 20mya
  • Gwella llwybrau teithio llesol presennol fel y cynllun a gwblhawyd yn ddiweddar yn y Pedwar Loc ar Ddeg  lle cafodd y llwybr beicio wyneb newydd a lle gosodwyd rhwystrau newydd i ganiatáu mynediad haws i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn.
  • Cyflwyno 15 cerbyd allyriadau isel iawn a chwe cherbyd hybrid i'w fflyd ei hun
  • Sicrhawyd cyllid yn ddiweddar ar gyfer cerbyd sbwriel allyriadau isel iawn a fydd ymhlith y cyntaf o'i fath yn y wlad pan gaiff ei lansio y flwyddyn nesaf.
  • Mae partneriaeth ag Egni Co-op a'r gosodwr Joju Solar wedi golygu bod 6,000 o baneli solar wedi'u gosod ar draws 21 o safleoedd yn y ddinas sy'n cynhyrchu hyd at ddau megawat o bŵer, y bydd peth ohono'n gwefru ein cerbyd sbwriel dim allyriadau.
  • Bydd nifer o bwyntiau gwefru cerbydau trydan newydd ar gael yn fuan ym meysydd parcio'r cyngor ledled y ddinas.

Am fwy o wybodaeth am Ddiwrnod Aer Glân ewch i www.cleanairday.org.uk