Parthau dim galw diwahoddiad
Parth dim galw diwahoddiad yw ardal lle mae trigolion wedi gofyn i fusnesau a masnachwyr beidio â gwneud ymweliadau diwahoddiad i’w cartrefi.
Nod y parthau yw lleihau digwyddiadau troseddau ar garreg y drws trwy bennu ardal lle na fydd croeso i alwyr carreg y drws sy'n gwerthu nwyddau neu wasanaethau.
Sefydlir parthau dim galw diwahoddiad yn dilyn proses ymgynghori naill ai mewn ymateb i ddigwyddiadau neu ar gais.
Darllenwch fwy am barthau dim galw diwahoddiad ar wefan Penaethiaid Safonau Masnach Cymru
I ofyn am sefydlu parth dim galw diwahoddiad cysylltwch â Chyngor Dinas Casnewydd a gofyn am safonau masnach.