Cerbydau sy'n Hygyrch i Gadeiriau Olwyn

Gwybodaeth mewn cysylltiad a cherbydau hacni a cherbydau  preifatdau llogi preifat

Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi penderfynu, yn unol ag adran 167 Deddf Cydraddoldeb 2010, y bydd yn cadw rhestr o gerbydau trwyddedig sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn.

Mae rhestr o'r cerbydau trwyddedig hynny sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn ar hyn o bryd ar gael isod neu gan swyddfeydd y Cyngor.

Gweld rhestr o gerbydau sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn (pdf)

Rhestr o Gerbydau Dynodedig yn unol ag Adran 165 Deddf Cydraddoldeb 2010

Mae adran 165 o Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gosod dyletswyddau ar yrwyr cerbydau dynodedig yn unol ag adran 167 o'r Ddeddf wrth ddelio â phobl anabl mewn cadeiriau olwyn neu berson sydd am ddod â pherson anabl mewn cadair olwyn gydag ef. Nodir y dyletswyddau hynny yn adran 165 (4) fel a ganlyn:

  • cludo’r teithiwr yn y gadair olwyn;
  • peidio â gwneud unrhyw dâl ychwanegol am wneud hynny;
  • os yw'r person yn dewis eistedd mewn sedd teithiwr, cario'r gadair olwyn; rhoi unrhyw gamau sy'n rhesymol angenrheidiol ar waith i sicrhau bod y teithiwr yn cael ei gludo'n ddiogel ac yn gyfforddus; a
  • rhoi’r fath gymorth symudedd i’r teithiwr ag sy'n ofynnol yn rhesymol.

Mae adran 165 (7) o'r Ddeddf yn creu trosedd pan fo gyrrwr tacsi dynodedig neu gerbyd hurio preifat yn methu â chydymffurfio â dyletswydd a osodir arnynt o dan yr adran dan sylw. Gellir cosbi hyn ar gollfarn ddiannod â dirwy heb fod yn uwch na graddfa 3 ar y raddfa safonol (sef £1,000 ar hyn o bryd).

Mae adran 166 o'r Ddeddf yn gwneud darpariaeth i awdurdodau trwyddedu gyflwyno esemptiadau i yrwyr os ydynt wedi'u bodloni ei bod yn briodol gwneud hynny:

  • Ar sail feddygol; neu
  • Ar y sail bod amodau corfforol y person yn ei gwneud yn amhosibl neu'n afresymol o anodd i'r person gydymffurfio â'r dyletswyddau hynny.

Bydd gyrrwr yn cael ei eithrio, felly, os oes tystysgrif eithrio wedi'i gyflwyno a bod hysbysiad o esemptiad a gyhoeddwyd gan y Cyngor yn cael ei arddangos yn y cerbyd yn y modd rhagnodedig.