Ansawdd dŵr

Perchnogion sy'n gyfrifol am gynnal y cyflenwad dŵr yn eu heiddo.

Dylid rhoi gwybod i Ddŵr Cymru ar 0800 052 0130 neu drwy wefan Dŵr Cymru am ddŵr prif gyflenwad sydd wedi'i afliwio neu ddifwyno.

Cyflenwadau dŵr preifat

Beth yw Cyflenwadau Dŵr Preifat? 

Cyflenwad dŵr preifat yw unrhyw gyflenwad dŵr nad yw’n cael ei ddarparu gan Dŵr Cymru/ Welsh Water.

Gall ffynhonnell y cyflenwad fod yn tarddell, ffynnon, twll turio neu gyflenwad sy'n deillio o arwyneb. Mae'r cyflenwadau'n gwasanaethu un eiddo neu sawl eiddo neu'n gwasanaethu safle masnachol neu gyhoeddus.

Risgiau Iechyd sy'n gysylltiedig â Chyflenwadau Dŵr Preifat

Gall cyflenwadau dŵr preifat fygwth iechyd oni bai eu bod yn cael eu diogelu a'u trin fel yn wahanol i gyflenwadau cyhoeddus, nad yw llawer o gyflenwadau preifat yn cael eu trin. Mae'r cyngor yn monitro ansawdd yr holl gyflenwadau dŵr preifat a nodwyd.

Y ddeddfwriaeth sy’n berthnasol i reoleiddio’r holl gyflenwadau dŵr preifat yng Nghymru yw Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2017

Mae’r rheoliadau’n cynnwys y canlynol:

  • yn berthnasol i'r holl ddŵr a fwriedir naill ai yn ei gyflwr gwreiddiol neu ar ôl ei drin ac a fwriedir ar gyfer yfed, coginio, paratoi bwyd neu at ddibenion domestig eraill. Maent hefyd yn berthnasol i'r holl ddŵr a ddefnyddir mewn unrhyw fenter cynhyrchu bwyd lle bwriedir i gynhyrchion a gynhyrchir gael eu bwyta gan bobl.
  • Mae'n pennu safonau ansawdd dŵr i ddiogelu iechyd defnyddwyr y cyflenwad.

O fewn y Rheoliad mae gan y Cyngor y dyletswyddau canlynol lle bo angen:

  • Cynnal asesiad risg o'r holl gyflenwadau dŵr a rennir a chyflenwadau masnachol bob 5 mlynedd ac ymateb i unrhyw gais am asesiad risg gan berchnogion neu feddianwyr un tŷ.
  • Ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor fonitro'r holl gyflenwadau a rennir a chyflenwadau masnachol yn unol â'r amlder samplu a nodir ac ymateb i unrhyw geisiadau gan berchnogion neu feddianwyr anheddau sengl.
  • Ei gwneud yn ofynnol i'r cyngor gadw cofnodion o'r holl gyflenwadau dŵr preifat yn yr ardal a chyflwyno adroddiad o'r gweithgareddau yr ymgymerir â hwy i'r Arolygiaeth Dŵr Yfed (ADY).
  • yn nodi gweithdrefnau y mae'n rhaid i'r Cyngor eu dilyn os yw'r Cyngor yn ystyried bod cyflenwad dŵr preifat yn afiach neu'n berygl posibl i iechyd dynol.
  • yn gwneud darpariaeth i ffioedd gael eu codi ar berchnogion cyflenwadau preifat mewn perthynas ag ymgymryd â gweithgareddau neu ddyletswyddau amrywiol sy'n ofynnol gan y rheoliadau.
  • Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi cymeradwyo taliadau am gyflawni ei weithgareddau o dan y Rheoliadau; gweler “Ffioedd cyflenwad dŵr preifat” am ragor o wybodaeth cysylltwch â [email protected]

 

Plwm

Os bydd y cyflenwad dŵr yn mynd trwy danc neu beipiau plwm, mae'n debygol y bydd plwm wedi'i hydoddi yn y dŵr a gall fod angen gosod tanc neu beipiau newydd.

Gall plwm fod yn niweidiol i blant ifanc iawn.

Cysylltu

Cysylltwch ag amddiffyn yr amgylchedd yng Nghyngor Dinas Casnewydd