Niwsans sŵn

Os ydych chi'n cael problemau gyda sŵn mawr, sy'n tarfu ac yn achosi trafferth yn aml, mae camau gallwch chi eu cymryd, gan gynnwys rhoi gwybod i Gyngor Dinas Casnewydd. 

Ni all y cyngor ddelio â chwynion am blant swnllyd, cau drysau yn glep na sŵn traffig

Cyn cwyno i'r cyngor, dylech siarad â'r person neu'r busnes sy'n achosi'r sŵn - efallai na fyddant yn sylweddoli eu bod nhw'n tarfu ac, yn aml, byddant eisiau helpu. 

Sut rydym ni'n delio â chwynion am sŵn

Domestig - cerddoriaeth uchel, cŵn yn cyfarth, gwaith ar y cartref

Masnachol - safleoedd adeiladu, tafarndai

Larymau ceir a thai

Cerddorion stryd

Sŵn o'r stryd

Sŵn o awyrennau milwrol neu sifil

Taflenni dyddiadur

Rhoi gwybod am niwsans sŵn 

Sut i beidio â gwneud gormod o sŵn

Gallwch leihau eich lefelau sŵn eich hun gartref trwy ddilyn y canllawiau hyn: 

  • Peidiwch â gosod seinyddion ar y waliau
  • Gwnewch yn siwr eich bod yn gallu clywed cloch y drws dros y gerddoriaeth neu'r teledu
  • Cadwch lefelau sŵn yn isel yn hwyr y nos
  • Dywedwch wrth eich cymdogion os byddwch yn cael parti
  • Peidiwch â gadael eich ci ar ei ben ei hun am gyfnodau hir
  • Os bydd eich ci yn cyfarth, ewch ato a'i dawelu
  • Peidiwch â defnyddio peiriant golchi neu sychu dillad yn hwyr y nos
  • Os byddwch yn dod adref ar ôl noson allan, cadwch eich lefelau sŵn yn isel - caewch ddrysau car yn ofalus a siaradwch yn dawel
  • Yn bennaf oll, byddwch yn rhesymol os bydd eich cymydog yn dod atoch oherwydd problem

Amddiffyn eich clyw

Mae dod i gysylltiad â cherddoriaeth uchel iawn am oriau ar y tro yn gallu niweidio'ch clyw a gall fod yn anodd sylwi ar hynny tan ei bod hi'n rhy hwyr, a'r niwed yn barhaol.

Fel canllaw, dylech allu siarad â rhywun sydd dau fetr i ffwrdd, heb weiddi. 

Os na allwch glywed yn iawn neu os yw'ch clustiau yn canu ar ôl digwyddiad, mae'n debyg bod y lefelau sŵn yn rhy uchel. 

Peidiwch â defnyddio clustffonau i wrando ar gerddoriaeth yn rhy aml a byddwch yn ofalus gyda lefel y sŵn - gwnewch yn siwr eich bod yn gallu clywed sŵn cefndir hefyd. 

Ewch i Action on Hearing Loss

Ewch i British Tinnitus Association