Gosod microsglodion

Mae'n ofynnol yn gyfreithiol i'ch ci wisgo coler a thag ond mae'n hawdd iawn i'r rhain gael eu colli neu eu tynnu ymaith.

Mae microsglodyn sy'n cael ei roi dan groen gwddf eich ci yn ffordd ddiogel o gael manylion adnabod parhaol i'ch ci

Mae gosod microsglodyn yn broses ddi-boen a gall eich milfeddyg wneud hyn, neu gall warden cŵn neu weithiwr hyfforddedig yng Nghartref Cŵn Dinas Casnewydd ei wneud am £12.

Mae pob ci sy'n cael ei ailgartrefu o Gartref Cŵn Dinas Casnewydd wedi cael microsglodyn.

Sut mae microsglodion yn gweithio

Mae cŵn sy'n cael eu casglu gan y gwasanaeth rheoli cŵn yn cael eu sganio yng nghartref cŵn y Cyngor.

Os oes gan y ci ficrosglodyn, mae'n bosibl chwilio'r gronfa ddata genedlaethol i ddod o hyd i fanylion y perchennog er mwyn cysylltu ag ef a dod â'r perchennog a'r ci yn ôl at ei gilydd.

Cofiwch gadw'ch manylion cyswllt yn gyfredol os byddwch yn symud tŷ neu'n newid rhif ffôn fel bod modd cysylltu â chi os deuir o hyd i'ch ci a oedd ar goll.

Gwnewch yn siwr bod gan eich ci goler sydd â disg arno yn cynnwys eich manylion cyswllt cyfredol, fel sy'n ofynnol gan y gyfraith.

Er mwyn trefnu i'ch ci gael microsglodyn gan Gartref Cŵn Dinas Casnewydd, defnyddiwch y ffurflen gyswllt ar-lein neu ffoniwch (01633) 656656.