Ysgol Gynradd

Gall plant ddechrau ysgol (dosbarth Derbyn) yn y mis Medi yn dilyn eu pen-blwydd yn 4 oed.

Gallech ddewis lle addysg gyfrwng Gymraeg, addysg gyfrwng Saesneg neu addysg gyfrwng grefyddol ac nid oes angen fod yn rhugl yn y Gymraeg neu hyd yn oed siarad Cymraeg er mwyn i’ch plentyn mynychu addysg yn y Gymraeg.

Derbyn i'r Dderbynfa Medi 2024

Dyddiad geni plant cymwys: 1 Medi 2019 a 31 Awst 2020

Lawrlwythwch ffurflen gais hwyr (pdf) 

Dyddiad cau: 9 Ionawr 2024, 5pm

Dyddiad penderfynu: 16 Ebrill 2024*

Ar gyfer derbyniad i ysgol gynradd y tu allan i'r rownd derbyniadau blynyddol, gan gynnwys Derbyn 2023 bydd angen i chi wneud cais trosglwyddo yn ystod y flwyddyn.

Gall rhieni ohirio mynediad tan y tymor yn dilyn pen-blwydd eu plentyn yn 5 oed a bydd y lle yn cael ei gadw. Ni ellir gohirio mynediad y tu hwnt i ddechrau’r tymor ar ôl pen-blwydd y plentyn yn 5 oed, na thu hwnt i’r flwyddyn ysgol y gwnaed y cais ar ei chyfer.

Cyn penderfynu a ddylid gohirio mynediad eich plentyn i’r ysgol, dylech gysylltu â’ch ysgol(ion) dewisol i ofyn sut y maent yn darparu ar gyfer y plant ieuengaf yn y Dosbarth Derbyn a sut y diwellir anghenion y plant hyn wrth iddynt symud i fyny drwy’r ysgol.

Cyswllt

Ebost: [email protected]

Ffôn: (01633) 656656