Q: Bydd y cynnig hwn yn arwain at fwy o draffig mewn ardaloedd cyfagos. Mae tagfeydd eisoes ar ffyrdd, a fydd y mynedfeydd i'r ysgol yn cael eu newid? A allai amseroedd dechrau/gorffen cyfnodol helpu?
A: Cynigir y capasiti ychwanegol er mwyn rhoi lleoedd i ddisgyblion sy'n byw yn y datblygiadau tai newydd ym Mharc y Jiwbilî a Chlwb Golff Parc Tredegar. Mae'r ddau ddatblygiad o fewn taith gerdded hawdd milltir o hyd i'r ysgol, ac mae’r seilwaith priffyrdd ar gyfer y datblygiadau hyn eisoes wedi'i sefydlu. Mae effaith debygol y cynnydd yn nifer y disgyblion ac felly hefyd staff cysylltiedig yn cael ei hasesu ac eir i’r afael â hi yn rhan o broses y cais cynllunio i swyddogion priffyrdd wneud sylwadau fel sy’n briodol. Gellid ystyried amseroedd dechrau a gorffen cyfnodol ond byddai hyn yn rhywbeth i'r corff llywodraethu ei gynnig ac ymgynghori arno.
Q: Mae capasiti ar gael mewn ysgolion uwchradd eraill, e.e. Ysgol Uwchradd Llanwern. A oes modd cyfeirio disgyblion at yr ysgolion eraill hyn?
A: Yr unig ysgol sydd ag unrhyw gapasiti dros ben yw Ysgol Uwchradd Llanwern, tua dwyrain y ddinas.
Yn nalgych Ysgol Bassaleg, yng ngorllewin y ddinas, y mae’r galw a nodwyd. Ni ystyrir ei bod yn briodol cludo cannoedd o blant mewn bysus ar draws y ddinas bob dydd, gan ychwanegu at broblemau llygredd a thagfeydd.
Q: Pam na all disgyblion Maerun fynd i John Frost a theithio llai o bellter i'r ysgol?
A: Mae Ysgol John Frost yn llawn gyda disgyblion o’i dalgylch ei hun. Nid yw Ysgol John Frost yn nes at Ysgol Maerun nag at Ysgol Bassaleg.
Q: Rwy’n poeni y bydd y gwaith adeiladu yn ymyrryd â’r dysgu ac yn peryglu disgyblion
A: Mae'n anochel y bydd rhywfaint o darfu ar y safle yn ystod cyfnod y gwaith adeiladu. Bydd y gwaith yn cael ei gwblhau fesul cam i gyfyngu ar darfu ar ardaloedd penodol yn safle'r ysgol.
Iechyd a diogelwch pawb ar y safle yw'r brif flaenoriaeth a bydd ardaloedd adeiladu yn cael eu gwahanu oddi wrth ardaloedd yr ysgol gyda byrddau safle.
Lle y bo'n bosibl, bydd y gwaith sy’n tarfu fwyaf fel dymchwel yn cael ei wneud yn ystod gwyliau'r ysgol.
Bydd gan y contractwyr a wahoddir i wneud cais am y contract brofiad sylweddol o gyflawni projectau ar safleoedd ysgolion gweithredol ac o weithio gydag ysgolion i sicrhau bod disgyblion yn gallu parhau i ddysgu'n effeithiol ac yn ddiogel.
Yn olaf, mae'r amgylchedd adeiladu yn rhoi cyfle i fyfyrwyr weld y byd gwaith yn uniongyrchol a gweld yr amrywiaeth o fasnachwyr a ddefnyddir ar gyfer project adeiladu.