Cyfrwng Cymraeg 4 ac Ysgol Pilgwenlli

Cwestiynau Cyffredin  

Ysgol Gynradd Gymraeg

C: Oes angen Ysgol Gynradd Gymraeg arall ar Gasnewydd?

A: Ar hyn o bryd mae tair ysgol gynradd Gymraeg yng Nghasnewydd ac maen nhw bron yn llawn.  Mae Llywodraeth Cymru’n ymrwymedig i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg ledled Cymru, a bydd pedwaredd ysgol Gymraeg yn ategu hyn. Bydd agor yr ysgol newydd hon yng Ngorllewin y Ddinas yn sicrhau bod ysgolion Cymraeg ar gael yn lleol i fwy o deuluoedd.

Ar hyn o bryd mae 5% o ddisgyblion yn cael addysg gynradd Gymraeg. Ond mewn arolwg diweddar o rieni, dywedodd 16% o ymatebwyr yr hoffent i’w plentyn fynychu ysgol gynradd Gymraeg. 

C: A fydd dalgylchoedd ysgolion cynradd Cymraeg Casnewydd yn newid?

A: Bydd, i roi lle i’r bedwaredd ysgol gynradd Gymraeg bydd angen i’r dalgylchoedd newid. Dynodwyd y dalgylchoedd a gynigir yn ôl y capasiti a gynigir i’r ysgolion, ond nid yw hyn yn derfynol nes penderfynu ar y cynnig. 

View the proposed Welsh-medium primary catchment area

C: Mae un o’m plant ar hyn o bryd ym Mlwyddyn 1 mewn ysgol gynradd Gymraeg yng Nghasnewydd. Mae fy mhlentyn arall am ddechrau yn y dosbarth Derbyn ym mis Medi 2020. Gyda’r newid i’r dalgylchoedd addysg Gymraeg, sut gallaf i sicrhau y bydd fy nau blentyn yn yr un ysgol?

A: Nid oes sicrwydd y cewch le mewn ysgol ddewis, hyd yn oed os taw hi yw ysgol y dalgylch. Ond, yn naturiol bydd sefydlu pedwaredd ysgol gynradd Gymraeg yn golygu y bydd angen newid y dalgylchoedd addysg Gymraeg. Caiff lleoedd derbyn ar gyfer blwyddyn academaidd 2020/21 eu hystyried dan y dalgylchoedd newydd a gynigir os caiff y cynnig ei fabwysiadu.

Gall rhieni a effeithir gan y dalgylchoedd newydd ddal gwneud cais i’w hysgol ddewis. Pan fo mwy o geisiadau am leoedd nag sydd o leoedd mewn ysgol caiff meini prawf gordanysgrifio’r Cyngor eu defnyddio i flaenoriaethu, a chaiff plant sydd â brawd neu chwaer sydd eisoes yn yr ysgol ddewis flaenoriaeth uwch. (Mae’r meini prawf blaenoriaeth ym mholisi derbyn i ysgolion 2020/21 yma: http://www.newport.gov.uk/documents/Schools-and-Education/School-Admissions-Policy-2020-2021.pdf)

C: A all yr Ysgol Gynradd Gymraeg newydd gael ei sefydlu’n rhywle arall yng Nghasnewydd?

A: Mae Cyngor Dinas Casnewydd am sefydlu’r Ysgol Gynradd Gymraeg newydd yng nghanol neu orllewin y ddinas i ateb y galw a sicrhau bod plant sydd am gael addysg Gymraeg yn gallu mynd i ysgol sy’n agos i’w cartref. Ystyriwyd taw safle Ysgol Gynradd Pilgwenlli oedd y mwyaf addas ar ôl edrych ar gyfres o opsiynau. 

C: O le mae’r arian yn dod i sefydlu ysgol gynradd Gymraeg newydd? Pam na all yr arian gael ei ddefnyddio ar ysgolion Saesneg presennol Casnewydd?

A: Mae’r arian yn dod o Lywodraeth Cymru drwy Grant Cyfalaf sy’n benodol i addysg Gymraeg. Nid yw’r cyllid hwn ond ar gael i ategu ehangiad addysg Gymraeg. 

Ysgol Gynradd Pilgwenlli

C: Pa mor bell fydd yr ysgol newydd o ysgol gynradd bresennol Pilgwenlli?

A: Mae safle’r ysgol newydd oddi ar Mendalgief Road, lai na milltir o Ysgol bresennol Pilgwenlli. 

C: Sut y bydd gen i ddigon o amser i fynd â’m plant i’r ysgol newydd a gollwng plant eraill mewn ysgolion/grŵp chwarae gwahanol?

A: Mae clwb brecwast a chlwb ar ôl ysgol i blant yn Ysgol Gynradd Pilgwenlli. Mae’r Cyngor hefyd am edrych ar ffyrdd eraill o gynorthwyo rhieni wrth hebrwng eu plant yn ôl ac ymlaen o’r ysgol, fel bws cerdded. Un o’r rhesymau dros y cynnig i ehangu Ysgol Gynradd Pilgwenlli yw i greu mwy o le i frodyr a chwiorydd fynd i’r un ysgol, gan osgoi gwneud i rieni deithio. 

C: Gall Mendalgief Road (lle mae safle’r ysgol newydd arfaethedig) fod yn brysur iawn. A fydd mannau croesi diogel ar waith?

A: Fel rhan o’r cynnig hwn, bydd swyddogion o’r Gwasanaethau Addysg a Phriffyrdd yn ystyried mesurau priodol i sicrhau bod Mendalgief Road yn ddiogel i gerddwyr ei chroesi. 

C: Pam na all Ysgol Pilgwenlli aros yn ei lleoliad presennol a chodi’r ysgol Gymraeg newydd ar safle newydd?

A: Mae Ysgol Gynradd Pilgwenlli’n llawn ac mae rhestr aros i bob grŵp oedran. O ganlyniad, rhaid i rai plant sy’n byw’n y dalgylch fynd i ysgolion eraill. Mae hyn hefyd yn golygu bod achosion o frodyr a chwiorydd yn methu mynd i’r un ysgol. Gwyddom fod hyn yn achosi problemau i rieni o ran presenoldeb a phrydlondeb, ac felly rydym am ehangu’r ysgol fel y gall dderbyn mwy o blant. Ond, nid yw’r safle presennol yn ddigon mawr i’w ehangu. Drwy symud i’r adeilad newydd ar y safle mwy, gallai capasiti’r ysgol gynyddu gan felly alluogi mwy o ddisgyblion o ardal Pilgwenlli i fynd i ysgol eu dalgylch.

Pe byddai’r Ysgol Gynradd Gymraeg newydd yn agor yn yr adeilad newydd, bydd angen i ran fawr o’r ysgol newydd aros yn wag am rai blynyddoedd, nes i’r boblogaeth ysgol aeddfedu a bod pob dosbarth yn llawn.