Apeliadau cynllunio
Gellir cyflwyno apêl gynllunio:
- yn erbyn penderfyniad y cyngor i wrthod cais am ganiatâd cynllunio
- yn erbyn unrhyw amodau a osodwyd gan y cyngor wrth roi caniatâd cynllunio
- yn erbyn methiant y cyngor i benderfynu ar gais o fewn y cyfnod statudol.
Nid oes gan drydydd partïon hawl i apelio, e.e. cymdogion neu ymgyngoreion eraill, heblaw yn erbyn y penderfyniad i roi neu gyhoeddi Tystysgrif Datblygiad Cyfreithlon.
Gellir herio cyfreithlondeb penderfyniad i roi caniatâd yn yr Uchel Lys.
Os yw parti o’r farn na ddaethpwyd i benderfyniad mewn ffordd briodol, gellir gwneud cwyn i’r cyngor neu’r Ombwdsmon Llywodraeth Leol i adolygu’r ffordd y daethpwyd i benderfyniad, ond ni all adolygu na gwrthdroi’r penderfyniad.
Cysylltu
Cyflwynir apeliadau i’r Penderfyndiadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru, sy’n rhan o Lywodraeth Cymru.
Dylid anfon copi o unrhyw apêl i’r cyngor er gwybodaeth a’i chyfeirio at y Swyddog Cynllunio (Apeliadau).