Digartrefedd

StreetLink poster

Os ydych chi’n ddigartref neu mewn perygl o golli eich cartref, mae gan y cyngor ddyletswydd o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 i wneud ymholiadau ynglŷn â’ch sefyllfa a phenderfynu pa ddyletswyddau y gallai fod gennych hawl iddynt a sut gall y cyngor eich helpu o bosibl. 

Gallech ddymuno cwblhau canllaw datrysiadau tai Dewisiadau Tai Casnewydd i gael gwybodaeth am dai a’r dewisiadau sydd ar gael i chi.

Os ydych chi’n ddigartref neu mewn perygl o fynd yn ddigartref, cysylltwch â’r tîm dewisiadau tai ar (01633) 656656

Os ydych chi mewn perygl o fynd yn ddigartref o fewn y 56 diwrnod nesaf bydd y cyngor yn gweithio gyda chi i gymryd pob cam rhesymol i’ch atal rhag mynd yn ddigartref. Gallai hyn olygu gweithio gyda chi i gadw’ch cartref presennol neu ddod o hyd i lety arall.

Os ydych chi eisoes yn ddigartref gallai’r cyngor gymryd pob cam rhesymol i ddod o hyd i lety arall i chi, gan eich helpu am hyd at 56 diwrnod ar ôl i chi fynd yn ddigartref. Gelwir hyn yn ddyletswydd cymorth digartrefedd.

Disgwylir i chi weithio gyda’ch gweithiwr achos i gytuno ar y camau rhesymol, a allai gynnwys:

  • cynnig o lety addas gyda landlord preifat
  • cynnig o lety addas gyda chymorth
  • cymorth i sicrhau llety y daethoch o hyd iddo eich hun
  • cynnig o dai cymdeithasol addas

Os ydych chi’n parhau i fod yn ddigartref ar ôl 56 diwrnod

Os nad yw’r cyngor wedi gallu eich cartrefu a’ch bod chi wedi gwneud popeth y gofynnwyd i chi ei wneud, byddwn yn penderfynu a oes gennym ddyletswydd i barhau i’ch cynorthwyo.

Os ydych wedi gwrthod cynnig o lety addas, gan gynnwys yn y sector preifat, neu os nad ydych wedi dilyn y rhestr o gamau cytunedig, mae’n bosibl na fyddwch yn gymwys i gael mwy o gymorth.

Os ydych wedi dilyn y camau cytunedig ond heb lwyddo i ddod o hyd i gartref addas, ceisiwn ganfod a ydych chi’n perthyn i un o’r grwpiau angen blaenoriaethol, ac a oedd eich digartrefedd o ganlyniad i rywbeth yr oeddech chi wedi’i wneud neu heb ei wneud. 

Ar ddiwedd y 56 diwrnod, os ydym yn fodlon eich bod chi’n perthyn i un o’r grwpiau angen blaenoriaethol ac nad ydych yn fwriadol ddigartref, byddwn yn parhau i’ch helpu i ddod o hyd i gartref newydd.

Os nad oes gennych unman i aros

Os nad oes gennych unman diogel i aros, byddwn yn gwneud popeth y gallwn i ddod o hyd i rywle i chi aros dros dro tra byddwch yn gweithio gyda’r cyngor i ganfod ateb.

Os credwn y gallech fod yn gymwys, yn ddigartref a bod gennych angen blaenoriaethol ymddangosiadol, ac ni allwn ddarparu ateb i chi yn y tymor byr neu ganolig, ceisiwn ddarparu llety dros dro i chi.

Os darperir llety dros dro, efallai y gofynnir i chi adael:

  • os ydych yn torri telerau eich cytundeb
  • os ydych wedi gwrthod cynnig o lety addas, gan gynnwys llety rhent preifat
  • os penderfynwn eich bod wedi’ch gwneud eich hun yn ddigartref yn fwriadol
  • os nad ydych wedi gwneud popeth y mae’ch gweithiwr achos wedi gofyn i chi ei wneud
  • os oes llety addas ar gael i chi            

Os ydych chi’n credu eich bod chi’n ddigartref neu mewn perygl o fynd yn ddigartref, cysylltwch â’r tîm dewisiadau tai ar (01633) 656656. 

Strategaeth Ddigartrefedd

Mae’r cyngor yn ymrwymedig i daclo digartrefedd yn y ddinas ac wedi datblygu strategaeth ddigartrefedd ar gyfer Gwent gyfan gydag awdurdodau lleol eraill Gwent. 

Mae’r strategaeth yn nodi’r nodau a’r amcanion allweddol a manylion camau gweithredu i fynd i’r afael â’r anghenion a nodwyd ledled Casnewydd a Gwent, yn unol â chanllawiau statudol a chan adeiladu ar yr adolygiad cynhwysfawr o ddigartrefedd a wnaed fel rhan o’r broses.

Lawrlwythwch Adolygiad Digartrefedd Gwent 2018 (pdf)

Lawrlwythwch Strategaeth Ddigartrefedd Gwent 2018-2022 (pdf)

Prawf bwriadoldeb

Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi dewis defnyddio’r prawf bwriadoldeb ar gyfer pob grŵp a restrir yn Adran 70 Deddf Tai (Cymru) 2014.

Dyma’r grwpiau:

  • Menyw feichiog
  • Rhywun y mae plentyn dibynnol yn byw gydag ef
  • Rhywun sy’n agored i niwed o ganlyniad i henaint, salwch corfforol neu feddyliol neu anabledd ac ati
  • Rhywun sy’n ddigartref o ganlyniad i argyfwng, e.e. llifogydd, tân neu drychineb arall
  • Rhywun sy’n ddigartref o ganlyniad i gam-drin domestig
  • Rhywun sy’n 16 neu’n 17 oed
  • Rhywun rhwng 18 a 21 oed yr ystyrir ei fod mewn perygl o ddioddef camfanteisio rhywiol neu ariannol
  • Rhywun rhwng 18 a 21 oed a oedd yn derbyn gofal, neu’n cael ei letya neu ei faethu gan awdurdod lleol tra oedd yn iau na 18 oed
  • Rhywun sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog ac sy’n ddigartref ar ôl cael ei ryddhau o’r lluoedd arfog
  • Rhywun sydd â chysylltiad lleol â’r awdurdod lleol sy’n agored i niwed o ganlyniad i fod yn y ddalfa ac sy’n ddigartref ar ôl cael ei ryddhau o’r ddalfa.

Lawrlwytho adroddiad Aelod y Cabinet sy’n manylu ar y penderfyniad a wnaed ar 15 Mehefin 2015 (pdf)  

Gwasanaethau lleol

Dewch o hyd i wybodaeth am nifer o wasanaethau lleol yng Nghasnewydd ar wefan Dewisiadau Cartref Casnewydd neu cysylltwch â thîm atebion tai'r cyngor ar (01633) 656656 i gael rhagor o wybodaeth.

Cysylltu

Yn ystod oriau swyddfa, cysylltwch â’r gwasanaethau ailgartrefu yng Nghyngor Dinas Casnewydd.

Hysbysiad Preifatrwydd

Lawrlwythwch y Polisi Preifatrwydd digartrefedd (pdf)

Costau byw: dysgwch fwy am gymorth a chyngor arall sydd ar gael yng Nghasnewydd.