Fflatiau'r Cei

Quay Apartments Lounge

Mae unig westy fflatiau Casnewydd yng nghanol y ddinas, taith gerdded 5 munud o’r orsaf drenau, a thaith car ychydig funudau o gyffyrdd 26/25A a 25 traffordd yr M4.

Mae’r fflatiau un a dwy ystafell wely cyfoes hyn ar hyd Afon Wysg â golygfeydd anhygoel dros y ddinas.

Gellir parcio yn y maes parcio drws nesaf am £2 am 24 awr.

Mae Fflatiau’r Cei gerllaw Stadiwm Rodney Parade a Theatr Glan-yr-afon. Mae Felodrom Geraint Thomas, rhan o Bentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd, ond ychydig filltiroedd i ffwrdd.

Hygyrchedd

Ceir mynediad i’r adeilad drwy dri gris, ond mae yno ramp hefyd. 

Mae ardal y dderbynfa’n wastad, ac mae lifft i’r gwahanol loriau.

Nid oes grisiau yn y coridorau na’r fflatiau, ond dylech wirio eich hun ynghylch anabledd a symudedd.

Fflatiau’r Cei
Tŷ Clarence, Clarence Place, Casnewydd NP19 7AA

Gwefan: https://www.quayapartments.co.uk/aparthotels-newport/  

Ffôn: (01633) 386619
Neilltuo fflat: [email protected]  

Mae cyfleusterau’n cynnwys:

  • Lifft
  • Cegin fodern
  • Cyswllt Di-wifr am ddim
  • Teledu 4K Call
  • Ystafelloedd Maint Brenin a Brenin Mawr
  • Peiriant coffi Tassimo
  • Yn agos i dai bwyta ac archfarchnadoedd
  • Yn agos i’r orsaf drenau   

TRA99454 18/03/2019