Newidiadau i ymweld â Chasnewydd

Visit Safe White

Darllenwch  Reoliadau Coronafeirws Llywodraeth Cymru

O ganlyniad i bandemig Covid-19 mae newidiadau i’r ardaloedd i gerddwyr yng Nghasnewydd bellach yn cefnogi ymbellhau cymdeithasol ac yn gwella diogelwch ymwelwyr.

Mae rhwystrau ychwanegol wedi'u gosod mewn mannau allweddol i gynyddu'r ardaloedd i gerddwyr yng nghanol y ddinas.

Dim ond cerbydau sy’n cyflenwi busnesau fydd yn cael mynediad rhwng 6am a 10am ar y strydoedd hyn.

Bydd y newidiadau hyn yn sicrhau mwy o le diogel i siopwyr a hefyd yn galluogi mwy o dafarndai, bwytai a chaffis i gynnig gwasanaethau awyr agored.

Gan fod y Stryd Fawr wedi’i chynnwys yn yr ardaloedd newydd i gerddwyr, bydd gwasanaethau bws a arferai ddefnyddio’r llwybr hwn nawr yn mynd  i orsaf fysus Casnewydd yn uniongyrchol.

Gweler map o’r newidiadau yng nghanol y ddinas yma. (pdf). 

Manwerthu

Mae'r holl fanwerthu bellach ar agor.  

Ar hyn o bryd mae Marchnad Casnewydd ar gau i'w hadnewyddu a'i haddasu fel gofod ar gyfer sawl swyddogaeth. Dyma sut mae’r datblygiad yn mynd rhagddo.

Cadwch yn ddiogel

Mae gorchuddion wyneb yn orfodol yn y rhan fwyaf o fannau cyhoeddus dan do ledled Cymru.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.  

Darllenwch am y camau y gallwch eu cymryd i sicrhau eich diogelwch eich hun ac eraill. 

Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi cyflwyno amrywiaeth o fesurau i helpu ymwelwyr i gadw'n ddiogel gan gynnwys:

  • Trefn lanhau ddwysach mewn mannau allweddol ac ym meysydd parcio’r cyngor.
  • Trefniadau cadw pellter cymdeithasol ar gyfer ardaloedd manwerthu a hybiau trafnidiaeth
  • Systemau unffordd a/neu ledu troedffyrdd
  • Triniaeth gwrth-feirws i fannau y cyffyrddir â nhw’n aml megis rheiliau llaw, biniau, botymau gwthio a seddi
  • Asesu busnesau i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â chadw pellter cymdeithasol

Mae'n ofynnol i fusnesau unigol roi mesurau ar waith fel y gall cwsmeriaid a staff gadw pellter diogel bob amser.

Os credwch nad yw busnes yn dilyn y gofynion hyn, ffoniwch (01633) 414970.

Mae mwy o wybodaeth ar gael o  Friars Walk a’r Kingsway ar sut y bydd eu canolfannau yn gweithredu yn unol â chanllawiau’r llywodraeth.

Toiledau

Am y wybodaeth ddiweddaraf, gweler Friars Walk a Chanolfan Kingsway.