Cwm Pilton

Wildlife-Walks_view-of-Pilton-Vale

Man agored amgylcheddol i’r dwyrain o Falpas yw Cwm Pilton, rhwng yr A4042 ac ystâd Cwm Pilton a fu’n wreiddiol yn eiddo i’r Swyddfa Gymreig.

Pan adeiladwyd ffordd osgoi Cwmbrân yr A4042, torrwyd rhan o’i chwrs trwy ardal o dir a oedd yn eiddo i’r cyngor, sef Grove Park, a rhoddodd y Swyddfa Gymreig yr ardal hon yng Nghwm Pilton i Gyngor Dinas Casnewydd i wneud yn iawn am hyn yn ogystal ag arian i wella’r safle. 

Creodd Cyngor Dinas Casnewydd y llwybr crwn, y llwybr byrddau a nifer o gerfluniau yn 2005-6.  

Mynediad

Mae’r safle oddi ar Pillmawr Road lle gall nifer bach o geir barcio ar y ffordd fynediad.

Mae mynedfeydd i gerddwyr o ystâd Cwm Pilton ac mae gwasanaethau Bws Casnewydd yn mynd trwy’r ystâd.

Mae rhai grisiau a llethrau serth mewn rhannau o’r safle er bod mwyafrif y llwybrau cerdded yn wastad ag arwyneb.

Ceir mynediad cyfyngedig ar gyfer cadeiriau olwyn. 

Agor map o fan agored Cwm Pilton

Yr hyn sydd i’w weld 

Mae Cwm Pilton yn cynnwys amrywiaeth o gynefinoedd o laswelltir a choetir i redyn a gwlyptir.

Nid yw’r safle erioed wedi cael ei ffermio’n helaeth ac felly mae ychydig o’r glaswelltir heb ei wella sydd wedi galluogi amrywiaeth diddorol o blanhigion i dyfu.

Yn benodol ger y fynedfa oddi ar Pillmawr Lane, cadwch lygad am y bengaled, tamaid y cythraul a hyd yn oed rhai tegeirianau brych yma ac acw.

Bydd y llwybr byrddau cyntaf sy’n ymestyn i’r dde yn eich arwain dros Nant Malpas lle byddwch yn gweld llawer o rywogaethau sy’n hoffi lleithder, megis coed gwern a helyg, cyrs, erwain a gellesg melyn.

Bydd y llwybr hwn yn eich arwain i hen goetir derw (rhan ogleddol y safle) gyda golygfeydd bendigedig o’r ardal o’i amgylch.

Yn y gwanwyn, mae clychau’r gog a fioledau’n gorchuddio llawr y coetir, ac yn yr hydref gall y derw a’r bedw roi lliwiau hydrefol hyfryd.

Wrth i chi ddychwelyd o’r coetir, bydd y llwybr byrddau’n eich arwain dros y pwll tymhorol a’r gwlyptiroedd lle gellir gweld gweision y neidr, penbyliaid, madfallod dŵr a brogaod.

Yn yr haf, gallai fod blodau gwyllt ac ieir bach yr haf yn y glaswelltiroedd, ac yn yr hydref cadwch lygad am ffyngau a hefyd madfallod dŵr a brogaod yn dod allan o’r pyllau i fyw ar y tir dros y gaeaf.

Peidiwch ag anghofio’r gaeaf! Gall coetiroedd yn y gaeaf fod yn lleoedd gwych i weld adar, ac mae’r pyllau’n dod yn gartrefi i adar gwlyptir sy’n gaeafu. 

Coetir collddail– Y prif goed a welir yma yw gwern, helyg a derw, gyda blodau’r gwanwyn megis y fioled gyffredin a chlychau’r gog yn y coetir derw. 

Pyllau a nentydd- Gall y pyllau fod yn weddol dymhorol, gan sychu’n llwyr weithiau dros yr haf, ond maent yn gartref o hyd i frogaod a madfallod dŵr.  

Gwlyptiroedd– Mae’r corsleoedd hyn yn safleoedd bwydo gwerthfawr i lawer o adar yn ogystal â darparu lleithder.  

Glaswelltir amwynder– Nid y cynefin gorau i fywyd gwyllt yw gwair sy’n cael ei dorri’n rheolaidd, ond bydd rhai planhigion ac anifeiliaid yn parhau i drigo yno, felly cadwch eich llygaid ar agor.  

Rhedyn– Yn gyffredinol mae hyn yn tyfu ar lethrau bryniau gan fod angen pridd sy’n draenio’n dda arnynt. Mae’n ymledu’n gyflym ac felly mae’n gallu goresgyn a mygu cynefinoedd eraill er bod ardaloedd bach fod yn fuddiol ar gyfer amrywiaeth o fywyd gwyllt.  

Addysg

Gall unrhyw un ymweld â Chwm Pilton ar unrhyw adeg o’r dydd, felly mae croeso i ysgolion a grwpiau eraill ddod i brofi’r cynefinoedd gwahanol ar y safle. 

Weithiau mae’r pyllau a’r gwlyptiroedd yn addas ar gyfer chwilota pwll, ond yn ystod cyfnodau sych maen nhw’n gallu bod yn eithaf bas – mae’n werth gwirio ymlaen llaw.

Diogelwch

Gall y llwybrau fod yn wlyb ac yn fwdlyd mewn mannau.

Mae rhannau lle mae dŵr agored sy’n gallu bod yn ddwfn dros fisoedd y gaeaf.

Ar adegau eraill y flwyddyn, gall coetiroedd fod yn fwdlyd ac yn gorsiog iawn, felly peidiwch â chrwydro oddi ar y llwybrau byrddau, hyd yn oed os oes golwg solet i’r arwyneb.

Gall llwybrau byrddau fod yn llithrig mewn tywydd gwlyb.