Bioamrywiaeth

Talfyriad o ddau air yw bioamrywiaeth, sef amrywiaeth biolegol. Mae’n cyfeirio at amrywiaeth a digonedd pob math o fywyd ar y ddaear.

Mae’r Canllaw Cynllunio Atodol ar gyfer Bywyd Gwyllt a Datblygu (pdf)  yn dangos sut mae’n rhaid i bob cynnig datblygu ystyried bioamrywiaeth.

Lawrlwythwch Adroddiad y Cyngor ar Ddyletswydd Bioamrywiaeth 2023 (pdf)

Projectau

Pryfed Peillio Casnewydd 

Ein nod yw addasu trefniadau torri ardaloedd dethol o laswelltir ar draws Casnewydd er mwyn annog blodau gwyllt brodorol i ffynnu.

Bydd hyn yn cynnwys dolydd, lleiniau ymyl y ffordd a safleoedd amrywiol ledled y fwrdeistref fel mynwentydd a pharciau.

Bydd safleoedd allweddol ar gyfer gwell rheolaeth yn cynnwys amryw leiniau ymyl ochr y ffordd, glaswelltiroedd yng Nghronfa Natur Leol Allt-yr-yn, Gwarchodfa Natur Leol St Julians, Parc Glan yr Afon, Wentwood Meadow, Tŷ-du, Duffryn a Mynwent St Woolos.

Darllenwch am Rheoli glaswellt sy'n ystyriol o wenyn yng Nghasnewydd

Project y Gardwenynen

Gweithio gyda'r Project Gwastadeddau Byw ac Ymddiriedolaeth Cadwraeth Cacwn, mae ardaloedd o laswelltir yn Ffos ddraenio Percoed a'r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn cael eu rheoli ar gyfer cacwn.

Yn dilyn dulliau traddodiadol o reoli gweirglodd, bydd y glaswellt yn cael ei dorri a'i gasglu bob hydref er mwyn cynnal ffrwythlondeb pridd isel ac amrywiaeth o ran rhywogaethau a chreu cynefin perffaith i bryfed peillio.

Dim ond mewn chwe lleoliad yng ngwledydd Prydain y gellir dod o hyd i’r Gardwenynen ac mae Gwastadeddau Gwent yn fan poblogaidd ar gyfer y rhywogaethau. 

Barrack Hill

Mae Barrack Hill yn Safle o Bwysigrwydd mewn Cadwraeth Natur (SoBCN), sydd wedi'i ddynodi ar gyfer ei mosaig mawr o laswelltir naturiol gwlyb a sych wedi'i led-wella, prysgwydd, rhedyn a choetir. 

Bydd y project yn gwella gallu'r ardaloedd i gefnogi adferiad natur drwy reoli cadwraeth, cyfathrebu ac ymgysylltu'n well â thrigolion lleol. 

Cyswllt

E-bostiwch [email protected] neu cysylltwch â Chyngor Casnewydd a gofyn am y Tîm Gwasanaethau Gwyrdd.