Archwilio Casnewydd

Mae Archwilio Casnewydd yn gosod hanesion diddorol y ddinas ar y stryd ac ar eich ffôn symudol.

O adroddiadau uniongyrchol am wrthryfeloedd gwleidyddol i ffilm o'r archif o orymdaith y carnifal, mae Archwilio Casnewydd yn cynnig ffordd newydd i chi ddysgu am Gasnewydd, ddoe a heddiw.

Sut mae'n gweithio

Wrth fynd o gwmpas

Casnewydd yw un 'ddinasoedd uwch-gysylltiedig' y DU, gyda WiFi cyflym ar gael yn rhad ac am ddim ar draws canol y ddinas. Bydd ein harwyddion ar y stryd ac mewn ffenestri siopau yn mynd â'ch ffôn clyfar i hanesion, cyfleusterau a chyfleoedd siopa gorau'r ddinas. 

Pryd bynnag y gwelwch symbol www.visitnewport.wales, bydd gwybodaeth ar gael am yr ardal leol; chwiliwch am arwyddion a phaneli lliwgar Archwilio Casnewydd. Byddwch yn dod o hyd i'r rhain yng nghanol y ddinas wrth ymyl adeiladau pwysig, safleoedd hanesyddol neu leoliadau sydd â stori ddiddorol i'w hadrodd.

I gael y wybodaeth, gallwch:

SGANIO'R côd QR, 

TAPIO'CH dyfais ar y tag NFC, neu

DEIPIO'R côd byr i'r blwch ar

www.visitnewport.wales  

 

O'ch cyfrifiadur

Gallwch fwynhau Archwilio Casnewydd o gysur eich cartref eich hun hefyd. Ewch i fersiwn y wefan ar gyfer cyfrifiadur yn www.visitnewport.wales a chlicio ar y poethfannau ar y map i fwynhau ymweliad rhithwir.

Casglwch y daflen a'r map rhad ac am ddim sy'n mynd gydag Archwilio Casnewydd o'r Canolfannau Gwybodaeth Leol i Dwristiaid