Beicio

1525R-78053B

Mae'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yng Nghasnewydd yn cael ei ddefnyddio gan feicwyr a cherddwyr ac mae'n ymlwybro drwy ardaloedd gwledig a threfol. 

Mae sawl rhan o'r llwybr oddi ar y ffordd, ond cymerwch ofal ychwanegol wrth feicio ar hyd y ffordd neu wrth groesi'r ffordd.

Mae pedwar llwybr y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yng Nghasnewydd: 

  • Mae Llwybr 4 a Llwybr 47 yn ffurfio rhan o'r Lôn Geltaidd 
  • Mae Llwybr 49 yn rhedeg trwy Sir Fynwy o'r Fenni i Gasnewydd, gan ddilyn llwybr camlas Mynwy ac Aberhonddu.
  • Llwybr 88 yw'r llwybr o ganol dinas Casnewydd i Gaerllion, sef llwybr gwastad yn bennaf ar hyd glan yr afon, sy'n cysylltu canol Casnewydd â Malpas, y gaer Rufeinig yng Nghaerllion ac yn arwain at gefn gwlad yn ardal Gwesty'r Celtic Manor, Dyffryn Wysg a Choed Gwent.

Mae mapiau a luniwyd ar gyfer beicwyr ar gael gan Sustrans neu lawrlwythwch lwybr Casnewydd a Chaerllion (pdf)

Chwiliwch fap rhyngweithiol am feicio yn ne-ddwyrain Cymru sy'n cynnwys gwybodaeth am leoedd i aros a phethau i'w gweld. 

Lawrlwythwch drydydd rhifyn Map Beicio Casnewydd (pdf) 

Llwybr beicio Casnewydd a Chaerdydd

Agorodd llwybr beicio yn cysylltu Casnewydd a Chaerdydd ym mis Gorffennaf 2015 sy'n cynnig llwybr diogel, parhaus i gymudwyr.

Mae'r llwybr oddi ar y ffordd yn rhannol ac mae'n defnyddio ffyrdd cyhoeddus llai prysur a ffyrdd gwledig heb eu dosbarthu mewn mannau.

Mae'n cysylltu'n uniongyrchol â Thŷ Tredegar a Llwybr Arfordir Cymru.

Lawrlwythwch fap yn dangos cyswllt llwybr beicio Casnewydd-Caerdydd (pdf) 

Llwybrau beicio de-ddwyrain Cymru

Lawrlwytho Taflen llwybrau beicio treftadaeth (pdf)

Lawrlwytho Taflen llwybrau beicio i'r teulu (pdf)

Lawrlwytho Taflen parciau beiciau a llwybrau beicio mynydd (pdf)

Lawrlwytho Taflen llwybrau ar y ffordd ac oddi ar y ffordd (pdf)

Cyced Casnewydd

Ymwelwch â Cyced Casnewydd am fwy o lwybrau beicio lleol, cymorth gan glybiau ac adnoddau.

Llogi beiciau

Mae Olwynion i Bawb yn fenter a gydnabyddir yn genedlaethol sy'n annog pob plentyn ac oedolyn ag anableddau ac anghenion amrywiol i gymryd rhan yn y byd beicio. Gan ddefnyddio beiciau wedi'u haddasu'n arbennig, mae'r gweithgareddau'n hwyl i bawb sy’n cymryd rhan.

Bydd sesiynau'n cael eu cynnal ar Ddydd Mercher a Dydd Sadwrn ym Mharc Tredegar, rhwng 10am a 3pm.

Ewch y tudalen Olwynion i Bawb Casnewydd yn Fyw am mwy o wybodaeth. 

Felodrom Cenedlaethol Cymru

Mae Casnewydd yn gartref i Felodrom Cenedlaethol Cymru sydd ar gael i'w ddefnyddio gan glybiau a defnyddwyr cyffredin.

Beicio mynydd

Mae'r llwybr gwych 15km, Llwybr Twrch yn Cwmcarn Forest Drive, wedi'i leoli gerllaw Casnewydd.