Talu eich treth gyngor

Dyfynnwch y rhif cyfeirnod wyth rhif a nodir ar y gornel dde ar frig eich bil, sy’n dechrau gyda 3...

Debyd uniongyrchol misol

Y ffordd hawsaf o dalu, dim ciwio, dim costau postio, dim angen cofio talu a dewis o bedwar dyddiad talu – 1af, 5ed, 12fed neu’r 20fed.  Gallwch hefyd ddewis talu eich bil blynyddol dros 10 neu 12 mis (11 mis os dewiswch y 1af o’r mis).

Cofiwch, efallai na fyddwn yn gallu cynnig y 10, 11 neu’r 12 mis llawn i chi os caiff eich debyd uniongyrchol ei sefydlu yn ystod y flwyddyn ariannol.

Cofrestru ar gyfer Debyd Uniongyrchol

Neu gallwch lawrlwytho a llenwi fersiwn brint o’r mandad debyd uniongyrchol (pdf).

Newidiadau i'ch debyd uniongyrchol presennol?

Talu trwy ddebyd uniongyrchol yn barod ac yn syml yn dymuno:

  • newid eich dyddiad talu.
  • newid o daliadau misol 10 i 11/12.
  • newid y manylion banc y cesglir taliadau ohonynt.

Newid debyd uniongyrchol

Ar-lein

Gallwch wneud taliad ar-lein diogel gyda’ch cerdyn debyd. Sicrhewch fod eich rhif y Dreth Gyngor 8 digid wrth law.

Gwneud taliad ar-lein

Trosglwyddiad BACS

Gwneud trosglwyddiad banc yn defnyddio’r manylion canlynol:

Rhif y Cyfrif: 05070406

Cod didoli: 09-07-20

Cyfeirnod: Eich rhif y Dreth Gyngor 8 digid

Ffonio

Mae llinell taliadau awtomataidd ar gael 24 awr y dydd drwy ffonio Cyngor Dinas Casnewydd ar (01633) 656656

Arian, siec a cherdyn

Gallwch dalu ag arian mewn unrhyw le sydd â PayPoint y DU neu gydag arian, siec neu gerdyn yn unrhyw Swyddfa Bost yn y DU drwy ddangos eich bil â chod bar neu gerdyn i’r manwerthwr neu’r Swyddfa'r Post.

Dod o hyd i'r man PayPoint agosaf ar Fy Nghasnewydd

Drwy'r post

Gellir postio sieciau i:

Treth Gyngor, Blwch SP 886, Casnewydd, NP20 9LU

Ysgrifennwch rif cyfeirnod eich cyfrif a’ch cyfeiriad ar y cefn.

Peidiwch ag anfon arian parod drwy’r post.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau e-bostiwch y Tîm Casglu Incwm yn [email protected] neu ffoniwch 01633 656656.