Cam 4: Rhoi hysbysiad cyfreithiol

Rydym yn eich cynghori i wneud apwyntiad i roi eich hysbysiad cyfreithiol cyn gynted ag y gallwch.

Mae rhoi rhybudd cyfreithiol yn sicrhau bod eich seremoni yn cael ei harchebu, gan roi tawelwch meddwl i chi gynllunio eich diwrnod.

Bydd rhybudd cyfreithiol o briodas neu bartneriaeth sifil yn ddilys mewn un lleoliad am flwyddyn.

Darllenwch wybodaeth fanwl am y gwahaniaethau rhwng partneriaeth sifil a phriodas.

Mae’n rhaid i chi roi eich hysbysiad i’r Swyddfa Gofrestru yn yr awdurdod lleol yr ydych yn byw ynddo, waeth lle mae’r seremoni’n cael ei chynnal.

Rhaid rhoi rhybudd o leiaf 28 diwrnod cyn y seremoni, ond i rai cyplau, gall hyn gael ei ymestyn i 70 diwrnod.

Dewch o hyd i'ch swyddfa gofrestru leol i drefnu apwyntiad i roi hysbysiad cyfreithiol.

Os ydych yn byw yng Nghasnewydd, llenwch y ffurflen isod a byddwn yn cysylltu â chi i drafod eich sefyllfa a threfnu apwyntiad os yn briodol. 

Dwedwch wrthym am eich seremoni    

Dogfennau

Y Swyddfa Gartref sy’n pennu’r dogfennau cyfreithiol sydd eu hangen yn eich apwyntiad hysbysiad cyfreithiol, a bydd yn dibynnu ar eich amgylchiadau penodol.

Gallwn drafod hyn gyda chi pan fyddwch yn cysylltu â ni i drefnu eich apwyntiad, ond bydd yr hyn a ganlyn yn rhoi syniad i chi o’r math o ddogfennau y gallwn eu derbyn fel prawf adnabod, cenedligrwydd a chyfeiriad.

Mae pasbortau yn ddelfrydol, ond byddwn yn rhoi gwybod i chi pa ddogfennau eraill all fod yn dderbyniol.

Byddwn hefyd yn gofyn i chi i ddangos tystiolaeth o’ch cyfeiriad presennol (e.e. trwydded yrru, bil treth gyngor).

Os ydych wedi bod yn briod neu mewn partneriaeth sifil o’r blaen ac wedi ysgaru, bydd angen i chi ddangos archddyfarniad absoliwt o’r ysgariad gyda stamp gwreiddiol y llys.

Os oedd yr ysgariad y tu allan i Gymru neu Loegr, cysylltwch â ni ymlaen llaw i gael canllawiau ychwanegol.

Os bu farw eich gŵr, gwraig neu bartner sifil, bydd angen i ni weld copi ardystiedig o’r dystysgrif marwolaeth a dogfennau eraill o bosibl - gallwn roi cyngor ar hyn.

Os ydych wedi newid eich enw drwy weithred newid enw neu drwy ddatganiad statudol, bydd angen dangos dogfennau.

Os yw’r naill neu’r llall ohonoch dan ddeunaw, bydd angen i ni gyhoeddi gwaith papur cyn yr apwyntiad i gael cydsyniad angenrheidiol eich rhieni neu warcheidwad. 

Manylion cyswllt

Cysylltwch â Swyddfa Gofrestru Casnewydd

Darllenwch fwy ar safle Gov.UK

>>Nesaf: Cam 5: Eich dewisiadau seremoni

<<Yn ôl i: Cam 3: Archeb Arbed y Dyddiad 

TRA116435 28/02/20