Tystysgrifau

I gael copi ardystiedig o dystysgrif geni, marwolaeth neu briodas lle cynhaliwyd y digwyddiad yn ardal Casnewydd, gwnewch gais i Swyddfa Gofrestru Casnewydd.

 

Gwnewch gais am gopïau o dystysgrifau 

Gwnewch gais yn bersonol neu drwy lawrlwytho'r ffurflen gais berthnasol:

Cais am gopi o Dystysgrif Geni (pdf)

Cais am gopi o Dystysgrif Priodas (pdf)

Cais am gopi o Dystysgrif Marwolaeth (pdf)

Gwasanaeth Blaenoriaethol

Yn bersonol: Mae tystysgrifau'n costio £35 yr un wrth ddefnyddio'r gwasanaeth hwn ac fe'u cyhoeddir yr un diwrnod pan dderbynnir y cais cyn 3pm.

Gellir cael tystysgrifau drwy ymweld â'n swyddfa ar ddydd Llun, dydd Mercher, dydd Iau neu ddydd Gwener rhwng 9am a 3pm ac ar ddydd Mawrth rhwng 9.30am a 3pm, llenwi ffurflen gais ac aros i'r dystysgrif gael ei rhoi.

Os nad ydych yn gallu aros am y dystysgrif, gallwn ei phostio atoch am ffi ychwanegol o £3 fesul amlen -gellir postio hyd at bum tystysgrif mewn un amlen - a byddwn yn ei hanfon drwy bost dosbarth cyntaf llofnodedig unwaith y bydd y cofnod wedi'i ganfod a'i wirio.

Sylwch fod ceisiadau'n cael eu trin ar sail y cyntaf i'r felin, a gall amseroedd aros fod yn hirach yn ystod cyfnodau prysur.

E-bost a ffôn: Mae tystysgrifau'n costio £35 yr un wrth ddefnyddio'r gwasanaeth hwn ac fe'u cyhoeddir yr un diwrnod pan dderbynnir y cais cyn 3pm.

Llenwch y ffurflen berthnasol uchod a'i e-bostio i [email protected] neu ffoniwch ni ar (01633) 235520, Opsiwn 5.

Byddwn yn cysylltu â chi i gymryd taliad pan fydd y dystysgrif yn barod a gallwch naill ai alw i mewn i'r Swyddfa i gasglu eich tystysgrif neu dalu ffi ychwanegol o £3 fesul amlen - gellir postio hyd at bum tystysgrif mewn un amlen-a byddwn yn ei hanfon drwy bost dosbarth cyntaf llofnodedig. 

Gwasanaeth arferol

Yn bersonol: tystysgrifau'n costio £11 yr un wrth ddefnyddio'r gwasanaeth hwn ac fe'u rhoddir o fewn 15 diwrnod gwaith ar ôl derbyn cais ysgrifenedig.

Gallwch wneud cais am y gwasanaeth hwn drwy ymweld â'n swyddfa ar ddydd Llun, dydd Mercher, dydd Iau neu ddydd Gwener rhwng 9am a 3pm ac ar ddydd Mawrth rhwng 9.30am  3pm, gan lenwi ffurflen gais a'i gadael gyda ni.

Byddwn yn cysylltu â chi i gymryd taliad pan fydd y dystysgrif yn barod.

Gallwch naill ai alw i mewn i'r Swyddfa i gasglu eich tystysgrif y diwrnod hwnnw neu dalu ffi ychwanegol o £3 fesul amlen - gellir postio hyd at bum tystysgrif mewn un amlen-a byddwn yn ei hanfon drwy bost dosbarth cyntaf llofnodedig. 

E-bost: tystysgrifau'n costio £11 yr un am y gwasanaeth hwn ac fe'u rhoddir o fewn 15 diwrnod gwaith ar ôl derbyn cais ysgrifenedig.

Llenwch y ffurflen berthnasol uchod a'i e-bostio i [email protected]Nid ydym yn cymryd archebion dros y ffôn ar gyfer y gwasanaeth hwn.

Byddwn yn cysylltu â chi i gymryd taliad pan fydd y dystysgrif yn barod.

Gallwch naill ai alw i mewn i'r Swyddfa i gasglu eich tystysgrif y diwrnod hwnnw neu dalu ffi ychwanegol o £3 fesul amlen - gellir postio hyd at bum tystysgrif mewn un amlen - a byddant yn cael eu hanfon drwy bost dosbarth cyntaf llofnodedig.

Rhyngwladol 

1. Gwasanaeth Blaenoriaeth: Mae tystysgrifau'n costio £35 yr un wrth ddefnyddio'r gwasanaeth hwn ac fe'u cyhoeddir yr un diwrnod pan dderbynnir y cais cyn 3pm.

Llenwch y ffurflen berthnasol uchod a'i e-bostio i [email protected].

Byddwn yn anfon e-bost atoch pan fydd y dystysgrif yn barod ac yn gofyn i chi ein ffonio i wneud taliad - ni allwn wneud galwadau rhyngwladol.

Yna caiff y dystysgrif ei phostio atoch chi am y ffi ychwanegol isod. 

2. Gwasanaeth safonol: tystysgrifau'n costio £11 yr un ac fe'u rhoddir o fewn 15 diwrnod gwaith ar ôl derbyn cais ysgrifenedig.

Llenwch y ffurflen berthnasol uchod a'i e-bostio i [email protected].

Byddwn yn anfon e-bost atoch pan fydd y dystysgrif yn barod ac yn gofyn i chi ein ffonio i wneud taliad - ni allwn wneud galwadau rhyngwladol.

Yna caiff y dystysgrif ei phostio atoch chi am ffi ychwanegol o £10 fesul amlen - gellir anfon hyd at bum tystysgrif mewn un amlen - sy'n cael eu hanfon drwy bost awyr wedi’i dracio a llofnodedig. 

Ffioedd

Darllenwch ragor am ffioedd gwasanaeth cofrestru.

Cysylltu

Manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa Gofrestru Casnewydd

TRA122666 27/07/2020