Newyddion

Cynllun i helpu i fynd i'r afael â digartrefedd

Wedi ei bostio ar Friday 5th March 2021

Gallai cynllun newydd arloesol i ddarparu tai fforddiadwy gael ei sefydlu ar faes parcio yng nghanol y ddinas.

Mae dau aelod cabinet o Gyngor Dinas Casnewydd yn ystyried cynigion a fydd yn galluogi creu 12 fflat fodiwlaidd Zed Pod ar ran o faes parcio Hill Street.

Mae Linc Cymru yn datblygu'r prosiect tai â chymorth sydd wedi derbyn £920,000 o gyllid gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'i chyllid digartrefedd cam dau.

Mae'r Cynghorydd Roger Jeavons, sef y dirprwy arweinydd a'r aelod cabinet dros wasanaethau'r ddinas, a'r Cynghorydd Majid Rahman, yr aelod cabinet dros asedau, yn ystyried a ddylid datgan rhan o le dros ben ym maes parcio Hill Street yn lle nad oes ei angen a'i waredu trwy brydles hir i Linc Cymru.

Mae adroddiad gan swyddogion yn argymell prydles 250 mlynedd am bremiwm o tua £180,000, yn amodol ar werthusiad annibynnol a chyfamod sy'n cyfyngu'r defnydd o'r safle i dai fforddiadwy.

Byddai'r maes parcio cyfan ar gau yn ystod y gwaith i adeiladu'r fflatiau ond bydd rhan ohono wedyn yn cael ei ddychwelyd i'w ddefnyddio fel maes parcio.

Ymgynghorir â holl aelodau'r cyngor ar y cynnig ar gyfer y maes parcio cyn gwneud penderfyniad terfynol.

Yn ystod y pandemig, mae Llywodraeth Cymru wedi ei gwneud yn ofynnol i gynghorau gynnig llety i unrhyw un sy'n ddigartref.

Mae tîm tai'r cyngor a'i bartneriaid wedi gweithio'n ddiflino i sicrhau bod pobl wedi cael eu cartrefu, yn enwedig y rhai sy'n byw ar y strydoedd. Mae hyn wedi bod yn llwyddiannus iawn gyda'r rhan fwyaf o bobl yn manteisio ar y cynnig o loches ac yn defnyddio gwasanaethau eraill.

Mae llawer o bobl a oedd gynt yn cysgu ar y stryd wedi symud i lety dros dro ac yn ymgysylltu â gwasanaethau cymorth am y tro cyntaf. I rai, mae hyn wedi newid eu bywydau ac maent yn symud ymlaen i lety mwy parhaol.

Fodd bynnag, mae hyn wedi golygu mwy o alw am dai dros dro a pharhaol, felly mae nifer o gynlluniau newydd yn mynd rhagddynt fel rhan o raglen cam dau.

Byddai preswylwyr yn y fflatiau naill ai'n gallu cael mynediad i gymorth yn ôl yr angen wedi'i deilwra i'w hanghenion penodol neu gymorth 24/7 ar y safle. Bydd Linc Cymru yn ymgysylltu â thrigolion a busnesau i egluro mwy am y prosiect os cytunir ar y cynigion.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.